Mae’n Wanwyn – Cylchlythyr 140

Mae Cydhydnos y Gwanwyn wedi cyrraedd ac wrth i mi ysgrifennu, mae hyd y dydd a’r nos yn gyfartal. Yfory bydd y dydd yn hirach na’r nos ac mae’r pren yn deffro’n gyflym. Efallai y bydd yn teimlo’n oer ond mae’r haul yn dod â gobaith a llawenydd.
(more…)

Heuldro Hapus – Cylchlythyr 139

Ar ddyddiau disglair Rhagfyr, mae’r goedwig yn lle hyfryd i dreulio amser. Pan fo’r coed yn foel, mae’r haul yn goleuo lliwiau bywiog y rhedyn, mwsoglau a’r dail syrthiedig. Sylwn ar y gwrthgyferbyniad rhwng cennau gwelw a smotiau llachar o ffyngau ar frigau sydd wedi syrthio yn erbyn y tir llaith tywyll.
(more…)

Tachwedd yn y Coedwig – Cylchlythyr 138

Mae blynyddoedd ers i mi gerdded drwy’r coed gyda’r nos. Ar Noson Tân Gwyllt roedd yn dawel ar wahân i sŵn adar, ni allech ei alw’n gân. Cigfrain, efallai? Rydyn ni wedi eu gweld yn hedfan yn ystod y dydd. Safai coed di-ddail yn llonydd, Sgerbydau duon tal dan awyr serennog; roedd yn ymddangos mai’r unig greaduriaid a oedd yn symud oedd fy nghi bach, Baskerville a minnau.
(more…)

Cyfarfod Cyhoeddus – 29 Medi 2023

Rydym yn eich gwahodd i ddod i Gyfarfod Cyhoeddus yn Canolfan Hen Ysgol Bodorgan, Ynys Môn LL62 5AB ar Noswaith Gwener 29 Medi am 7 o’r gloch. Hoffai’r Ymddiriedolaeth Goedwig Dragwyddol rannu ei syniadau am greu tir claddu naturiol ar Ynys Môn. Byddai’n rhan o goedtir a rhan o blodau gwyllt, sy’n agored i bawb.
Dewch i sgwrsio dros de a bisgedi.

(more…)

Medi 2023 – Cylchlythyr 137

Dwi mor falch ei fod wedi bod yn bwrw glaw! ‘Roedd y ffyngau bron â diflannu ar ôl y tywydd poeth diweddar ac ‘roeddwn yn poeni na fyddai dim i’w ddarganfod dydd Sul nesaf, pan fydd Charles Aron y dod i’r coed i’n dysgu amdanynt.

(more…)

Y Goedwig Dragwyddol yn yr Eisteddfod 5-12fed Awst

Mae’n amser Eisteddfod, a fydd hi byth mor agos at ein tir claddu a hyn eto! Ydach chi’n ddysgwr Cymraeg, neu’n siaradwr, ac yn medru helpu ni i rhedeg stondin ar y maes? Neu helpu ar ein safle i rhoi taflenni allan? Unrhyw amser rhwng 5ed a 12fed o Awst.

Dewch i gefnogi’r goedwig yr ydych yn ei garu! Gyrrwch neges yma, neu ffoniwch ein swyddfa – 01758 612006 DIOLCH!