Cysylltu Cylchoedd Bywyd
Golyga claddedigaeth yn y goedwig y bydd y sawl a gaiff ei gladdu’n llythrennol yn mynd yn rhan ohoni. Trawsffurfir y corff i fod yn rhan o gylchoedd bywyd newydd, oherwydd fel mae’r corff yn pydru, mae’n bwydo bywyd microsgopig yn y pridd. Yn eu tro maent hwy’n bwydo ffwng, a’r ffwng hwnnw’n marw ac yn bwydo gwreiddiau’r coed.
Anghofiwch y cynrhon a’r trychfilod a welwch mewn ffilmiau arswyd, dydi’r hyn sy’n digwydd yn y goedwig ddim yn anghynnes o gwbl.
Trwy gydol ein bywydau, rydym yn creu systemau cymhleth o foleciwlau organaidd i greu cnawd. Wedi’r claddu, bydd y moleciwlau cymhleth hyn ar gael i ffurfiau eraill o fywyd. Nid yw amlosgi yn garedig i’r amgylchedd, mae’n troi’r proteinau sydd yn y corff yn ocsidiau o garbon a nitrogen, sy’n codi i’r atmosffer ac yn ychwanegu at nwyon tŷ gwydr problemus. Mae claddedigaeth yn y goedwig yn rhan o’r ateb i’r argyfwng ecolegol sydd ohoni.
Ein hethos yw parch at fywyd o bob math, gyda’r ddealltwriaeth fod pob ffurf ar fywyd yn gysylltiedig i’w gilydd.
Rydym yn cydnabod bod marwolaeth yn rhan annatod o fywyd ac rydym yn derbyn marwolaeth fel ffordd i’r corff droi’n ffurfiau newydd ar fywyd. Rydym yn cynnal y galarwyr a’r rhai sy’n wynebu marwolaeth drwy eu hysgogi i dderbyn heddwch a chytgord y goedwig fel eli sy’n lleddfu.
Mae gofalu am bobl yn cynnwys derbyn y rhai sydd ag anawsterau corfforol, meddyliol ac ariannol. Golyga dderbyn gwahaniaethau rhwng unigolion, systemau crefydd a diwylliant, gan werthfawrogi creadigedd a dysg. Gofynnwn yn daer, felly, i bawb sy’n ymweld â’r goedwig barchu’r amgylchedd a pheidio ag achosi niwed i unrhyw ffurf ar fywyd sydd o’u hamgylch.
Mae ein dulliau yn organig: rydym yn compostio ac yn ailgylchu ac yn ymwrthod â chemegau gwenwynig. Rydym yn prynu’n lleol pan fo’n bosibl, yn ailddefnyddio popeth posibl, ac yn gyndyn o ddefnyddio adnoddau nas gellir eu hadnewyddu. Rydym yn ceisio meithrin bioamrywiaeth, gan glodfori harddwch ac amrywiaeth natur.
Mae pob agwedd ar ein Gweledigaeth i’w canfod ym mhedwar amcan yr Elusen, sef, yn gryno:
- Cynnig coedwig fel adnodd i’r cyhoedd;
- Addysgu am ein coedwigoedd brodorol;
- Cynnig a chadw safle claddedigaethau gwyrdd;
- Ymgeledd i alarwyr.
Ein gobaith yw, yn y tymor hir, y bydd Ymddiriedolaeth y Goedwig Dragwyddol yn gallu rhannu’r weledigaeth hon, gan gynorthwyo mudiadau a grwpiau eraill i sefydlu eu coedlannau claddedigaethau gwyrdd eu hunain, lle caiff coed a bywyd gwyllt eu gwarchod ochr yn ochr â phobl.