Ymuno

“It’s great to be able to help and play a bigger part in the wood where Elen is buried. And we always have a laugh!”

Felly meddai Alwyn y mae ei chwaer yng nghyfraith wedi ei chladdu yma. Mae bod yn y goedwig yn arbennig ac rydym yn sylweddoli na all pawb ddod yma – os hoffech gynnig eich amser a’ch sgiliau o bell, rhowch wybod i ni.

Sut gallwch chi helpu?

Yn y goedwig rydym yn gwneud gwaith gofalu a thrwsio – gan sicrhau bod y llwybrau’n hygyrch; gofalu am blanhigion ifanc yn y feithrinfa rhywogaethau brodorol; casglu hadau a thynnu mieri. Rydym yn cyflenwi’r holl offer gan gynnwys menig. Rydyn ni bob amser angen help gyda digwyddiadau – rydyn ni wedi cael rhai o sêr y maes parcio, dewiniaid pabell fawr a gwneuthurwyr cacennau! O bell, fe allech chi helpu gyda phrawfddarllen ein deunydd cyhoeddusrwydd a chodi arian. Fyddech chi’n gallu helpu gyda chyfieithiadau Cymraeg o ddeunydd byrrach? Gallech ymchwilio i bryniannau moesegol i ni. Cadwch ein gwefan yn gyfredol! Er bod gennym slot rheolaidd (dydd Sul olaf y mis) gallwn hefyd geisio ffitio i mewn gyda’ch amser rhydd – anfonwch neges neu ffôn atom ac fe wnawn ein gorau i gwrdd â chi.

Dydd Sul Gwirfoddoli

Ymunwch â ni i wirfoddoli yn y goedwig ar brynhawniau Sul olaf y mis. Roedd angen i wirfoddolwyr wneud rhywfaint o arddio coedwigol syml, yn gofalu am goed a thrawsblannu blodau. Os ydych ar gael i rhoi amser i chwynnu neu clirio’r mieri, dewch draw i’n gweld. Mae gennym ddetholiad o offer garddio a menig medrwch ei ddefnyddio. Gwisgwch ddillad addas ar gyfer y tywydd. Croeso i wirfoddolwyr ag anhawsterau. Rydym yn darparu cacen a phastai afal hefyd!

Dewch yn Ymddiriedolwr Elusen

Mae hon yn rôl y gallech fod am ei hystyried: croesewir cymorth bob amser o amgylch ein cynlluniau, codi arian, cyllid ac yn enwedig nawr gydag ail safle claddu ar y gorwel. Cysylltwch i rannu eich syniadau gyda ni.

Dewch yn Aelod

Helpwch i gefnogi’r Goedwig Dragwyddol trwy ddod yn aelod. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.