Dewis Llain
Gallwch gysylltu â ni er mwyn dewis llain ar gyfer eich hunan yn y dyfodol, neu ar gyfer câr sydd newydd farw. Ffoniwch ni i drefnu amser a dyddiad i’n cyfarfod yn y goediwg er mwyn i chi allu cerdded drwyddi a dewis llain.
Pwy all gael eu claddu?
Rydym yn claddu pobl, anifeiliaid anwes a llwch.
Gall person* gael ei gladdu mewn arch, amdo neu pod. Rhaid i arch fod yn bydradwy, a gellir dewis rhwng cardfwrdd, gwiail, morhesg, bambŵ neu bren heb ei farneisio.
Gellir un ai gladdu llwch o’r amlosgfa, neu ei wasgaru ar lain.
*Ni allwn dderbyn cyrff sydd wedi eu pêr-eneinio.
Costau
Ymwelwch â’n tudalen Costau ar gyfer manylion am ein gwasanaethau a rhestr prisiau.
Ein dyletswydd ni
Gwnawn bopeth sy’n angenrheidiol o’r funud mae’r corff yn cyrraedd y goedwig. Ymwelwch â’n tudalen Ein dyletswydd ni.
Beth allwch chi ei wneud
Am wybodaeth ynglŷn â’r hyn y dylech chi ei wneud, ymwelwch â’n tudalen Eich dyletswydd chi.