Beth allwch chi ei wneud

Bydd angen i chi drefnu gofal o’r corff cyn yr angladd, trefnu’r arch, y gwasanaeth a gerddoriaeth.  Rydym yn hapus i’ch cynorthwyo, a bydd yr ymgymerwr angladdau (os bydd un gennych) yn gofalu am faint bynnag o’r trefniadau â ddymunwch.

Gall yr arch gyrraedd mewn unrhyw gerbyd – nid o angenrheidrwydd hers, rydym wedi cael fan gwersylla cyn heddiw, yn ogystal â threlar defaid!  Mae gennym elor o bren a gwiail i gario’r arch drwy’r goedwig.

Mae dewis sut i gynnal y seremoni yn hollol agored i chwi.  Gellir cynnal pob mathau o seremonïau o dan dredfn unrhyw grefydd, neu heb unrhyw seremoni o gwbl. Nid oes cyfyngu ar yr amser y peru’r gladdedigaeth. Rhowch wybod i ni ymlaen llaw os oes angen mwy na 2 awr arnoch, fel y gallwn drefnu i staff lenwi.

Bydd y bedd yn barod ac wedi ei addurno, rydym yn goruwchwylio’r claddu ac yn adfer y llain wedi cau’r bedd. Mae lloches syml yn y goedwig sydd bob amser ar gael.

Rhaid i bopeth sy’n cael ei gladdu, gan gynnwys yr arch a’r dillad a wisgir gan yr ymadawedig, fod yn bydradwy. 

Mae rhwydd hynt i alarwyr sy’n awyddus i lenwi’r bedd eu hunain wneud hynny. Rhowch wybod i ni ymlaen llaw fel y gallwn ddarparu rhawiau!

Rhaid i drefniadau blodau fod yn gwbl fioddiraddadwy os ydynt am gael eu gadael yn y coed, mae blodau wedi’u torri wedi’u clymu â chortyn/llinyn bioddiraddadwy yn iawn. Gofynnwn yn garedig os bydd unrhyw drefniadau yn cyrraedd gyda chefn plastig neu ewyn gwerddon, a fydd modd i’r teulu neu’r trefnydd angladdau fynd â nhw adref ar y diwrnod.

Wedi’r Gladdedigaeth

Rydym yn caniatàu plannu blodau gwyllt ar y bedd, ac mae gennym feithrinfa lle gellir dewis rhai addas: gweler ein polisi blodau gwyllt.

Byddwn yn codi unrhyw blanhigyn sydd wedi dod o ganolfan arddio a siopau, gan nad ydynt yn frodorol gan amlaf.  Gellir cael clychau’r gog o’r goedwig: ni ddylid dod â rhai o’r tu allan.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gosod beddfaen o lechen wedi ei hargraffu a gallwch brynu llechi addas gennym: gweler galeri o gofebion.

Ni ddylid gosod bedd faeni o blastig neu o fetel.  Rydym yn cael gwared ar unrhyw beth nad yw’n organig / bioddiraddadwy heb rybudd.

Ac os ydych yn dymuno parhau i ofalu am y coetir – gweler ein tudalen Ymuno.