Tro drwy’r Coed

Mae cariad at goed yn reddfol i ddynolryw. Rydym yn edmygu eu godidowgrwydd, yn ymhyfrydu yn y blodau a’r rhedyn wrth eu bonion, yn mwynhau anadlu eu peraroglau. Gallwn ddarganfod tawelwch yng ngolau amryliw tyner y goedwig, a synhwyro’r cysylltiadau di-rif rhyngom ni â bywyd y goedwig.

Fel y dywedodd R. Williams Parry yn ei gerdd ‘Eifionydd’:

A llonydd gorffenedig
Yw llonydd y Lôn Goed,
O fwa’i tho plethedig
I’w glaslawr dan fy nhroed.
I lan na thref nid arwain ddim
Ond hynny nid yw ofid im.

Gweler isod am daith drwy’r goedwig, neu ewch i wefan Silent Why lle bu ein rheolwr Julia Everitt yn siarad â Claire Sandys am y Goedwig Dragwyddol a chladdedigaethau coetir:

www.thesilentwhy.com/post/theeternalforest


(Photo: Terry Mills)

Gallwn elwa gorff ac enaid o fod ymysg coed, yn anadlu’r gwyrddni. Mae gan bobl Japan air am hyn: shinrin-yoku – ymdrochi yn y coed. Mae tystiolaeth wyddonol sy’n profi y gall fod yn llesol i’r enaid ac i’r corff. Gall dim ond edrych ar goed helpu pobl i gael gwellhad o afiechydon. Ein dymuniad yw annog pobl i dreulio mwy o amser yn mwynhau profiadau fel hyn.

 

(Photo: Terry Mills)

Wedi’r cyfan, mae coed wedi rhoi bwyd a lloches i ni ac amryw o rywogaethau eraill ers cyn cof. Maent wedi bod ar y ddaear llawer hwy na dynoliaeth.

Mae gan bob cornel o Goedwig Noddfa Boduan ei chymeriad unigryw ei hunan.

Wrth i chi ddilyn y llwybrau o’r maes parcio, byddwch yn symud rhwng goleuni a chysgod, o goed bedw arian ifainc, gwern, cyll a chriafol i fannau â’u llond o goed pîn. Coed sbriws yw’r brif rywogaeth yma, ond mae ambell dderwen i’w gweld hefyd.

Yn yr haf, mae bwa… plethedig canopi’r coed yn plethu ynghau uwch ein pennau, gan adael i frithwaith o olau tyner gyrraedd y llwybr dan draed.

Yn y rhan hon, coed bedw arian yw’r mwyafrif. Rhain yw’r arloeswyr ymhlith coed, yn ail-feddiannu tir lle cafodd coed blaenorol eu torri i lawr.

Ar lawr y goedwig, mae’r gweddillion a gafodd eu diosg gan y coed: dail cwymp y tymor blaenorol, canghennau wedi’u malurio gan y gwynt, oll yn cynnig lloches i greaduriaid bychain o bob math.

 


(Photo: Terry Mills)

Edrychwch i fyny: teimlwch eich ysbryd yn codi. Bedw arian eiddil, pob un yn ymwthio tua’r goleuni.

Gwrandewch: mae’r adar mân yn brysur yn y copaon. Efallai na wnewch chi mo’u gweld, ond byddwch yn siŵr o’u clywed yn galw ar ei gilydd.

Gyda lwc, fe glywch fewian y boncath sy’n troelli fry uwchben.

 


(Photo: Arabella Melville)

Ar ffin orllewinol y goedwig, mae’r tir yn gwyro lawr tua’r afonig sy’n disgyn o sylfaen hen losgfynydd ar arfordir gogleddol Llŷn.

Oedwch yma, gadewch i’ch meddwl dawelu gan wrando tincial melodaidd y dŵr a lleisiau’r ŵyn yn galw am eu mamau yr ochr draw i’r afonig.

Dyma ran hynaf y goedwig, ac yma mae’r amrywiaeth fwyaf o goed a blodau.

Ffawydd, deri, castanwydd ac ynn sy’n tyfu yma, gydag ambell i ddraenen wen, celynnen a bedwen arian yn eu mysg.


(Photo: Arabella Melville)

Dyma’r Amanita muscaria, neu amanita’r gwybed, un o’r rhywogaethau ffwng mwyaf lliwgar. Mae’n addurno llawr y goedwig, yn arbennig lle tyf bedw arian. Mae nifer o fathau eraill o’r ffwng amanita i’w cael yn y goedwig, a phob un yn brydferth. Ond maent hefyd yn wenwynllyd. Fe’i defnyddiwyd i ladd pryfaid, gan roi’r enw amanita’r gwybed iddo, a’i enw Saesneg: fly agaric yn ogystal.

 

Prin yw’r ffwng bwytadwy’r ydym wedi dod o hyd iddo yma – heblaw am y codenni mwg bychain sy’n ymddangos ar y llwybrau ganol haf ond rydyn ni’n dal i fforio!

 


(Photo: Arabella Melville)

Coedwig hynafol yw Noddfa Boduan, sy’n brydferth o hyd, er gwaethaf yr holl goed a dorrwyd gan ei chyn-warchodwyr. Un arwydd sy’n profi ei bod yn goedwig hynafol yw’r holl glychau’r gog a geir yma bob gwanwyn, ac mae hyn yn bosibl am nad yw’r pridd wedi cael ei darfu arno’n ormodol.

Tynnwyd y llun hwn yn agos i’r afonig, lle mae’r tir yn gwyro’n serth; yn rhy serth i beiriannau …

 

Foxglove inspires poetry

(Photo: Terry Mills)

Yn uwch i fyny, ym mhrif ran y goedwig, mae clychau’r gog yn dychwelyd wedi i’r coed pîn gael eu torri, gan adael llawer mwy o oleuni i’r llawr yn y gwanwyn cynnar.

Mae bysedd y cŵn yn lliwio’r goedwig yn yr haf ac yn ysbrydoli barddoniaeth.

 


(Photo: Terry Mills)

O oleuni y daw bywyd, wrth inni dorri llwybrau drwy’r goedwig dywyll.

Mae’r blodyn menyn fel ceiniogau aur wedi’u taenu dros lecyn tawel.


(Photo: Terry Mills)

Mae rhedyn ysblennydd yn y goedwig hon, sy’n tyfu i daldra o bum troedfedd, gan nad oes angen llawer o olau arnynt.

Mae amrywiaeth da o redyn yng Nghoedwig Noddfa Boduan: Marchredynen Wryw yw hon, a ddefnyddiwyd gan ffermwyr i ladd llyngyr yn eu da byw ers talwm.


(Photo: Arabella Melville)

Blodau menyn, drain a mieri, pig yr aran… tyf blodau gwyllt yn doreithiog ger mynedfa’r goedwig. Mae persawr hyfryd gwyddfid yn llenwi’r awyr ar nosweithiau braf o haf.

Mae gwyddfid yn tyfu ym mhob rhan o’r goedwig, heblaw lle mae trwch o goed sbriws a blannwyd yn agos i’w gilydd yn atal golau dydd. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, ein bwriad yw tynnu llawer o’r coed hyn, i roi cyfle i fwy o flodau flodeuo lle mae gloÿnnod byw yn dawnsio rhwng coed pêr.

 


(Photo: Terry Mills)

Llwch i lwch.

Dyma fedd William Melville, a gladdwyd ym Mehefin 2005. Roedd yn ddiwrnod arbennig iawn: trist, ac eto’n ysbrydol.

Gweler oriel lluniau: yr angladd cyntaf yng nghoedwig Gwarchodfa Boduan.


(Photo: Terry Mills)

Roedd hi’n aeaf y tro cyntaf inni gerdded o amgylch y goedwig, a’r llecyn hwn yn foel.

Mor llawn ydyw o dyfiant amrywiol ydyw erbyn hyn!

 


(Photo: Terry Mills)

A dyma ni bron a chyrraedd yn ôl yn y maes parcio.

Gall fod yn anodd gadael y llecyn hyfryd hwn.

 


Map o lwybrau yng Nghoed Gwarchodfa Boduan