Gwnawn bopeth sy’n angenrheidiol, rydym yn paratoi’r bedd, yn arolygu’r gladdedigaeth ac yn adfer y llain ar ôl hynny.
Mae ein lleiniau yn helaeth ac fe gewch fap yn dangos lleoliad y llain. Ymddiriedolaeth y Goedwig Dragwyddol yw perchnogion y goedwig, ac ni all fyth gael ei glirio o goed na’i ail-werthu. Mae hyn yn ysgrifenedig yng nghofnodion y Gofrestrfa Tir. Bydd yn parhau’n dawel a phrydferth cyhyd â ffyniant y coed.
Gellir archebu lleiniau mwy, gellir trefnu llain ymlaen llaw, ac os oes gennych anifeiliaid anwes, gellir eu claddu hwythau yno hefyd. Mae yma hefyd lain y babanod.
Nid ydym yn ymgymerwyr angladdau. Os mai chi sydd yn trefnu’r gladdedigaeth, gallwch ein ffonio ac fe allwn eich helpu un ai i gysylltu ag ymgymerwr addas neu eich cynorthwyo i drefnu’r angladd eich hunan. Os ydych eisoes mewn trafodaeth ag ymgymerwr, gofynnwch iddo/iddi gysylltu â ni.