Coed Frochas yw’r enw a roddir ar ein coedwig ar rai mapiau. Coedwig sgwâr ei siâp ydyw, a gallwch ddod o hyd iddi o gwmpas cyfeirnod map SH 331392.
O’r Ffôr (ar yr A499, rhyw 4 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Bwllheli) ewch ar hyd y B4354 tuag at Nefyn, am bum milltir. Cadwch lygad am fryncyn bach ar y chwith, arwydd ffin pentref Boduan, ac arwydd sy’n dangos llun buwch. Dyma chi ar fin cyrraedd y goedwig, a dylech ei gweld ar ochr dde’r ffordd.
Mae’r adwy i’r goedwig ar ochr ogleddol y B4354, rhyw 5 milltir i’r gorllewin o’r Ffôr ac 1.3 milltir i’r dwyrain o gyffordd y B4354 â’r A497 (Pwllheli-Nefyn). Mae lle hwylus i barcio oddi ar y ffordd fawr wrth yr adwy.
Gweler y map Google ar waelod y dudalen.