Mae’r National Death Centre yn cynnig gwybodaeth ynghylch claddedigaethau coedwig, claddedigaethau hunan-weinyddu, eirch, seremonïau a materion cyfreithiol, a chyngor ar bob agwedd ar farwolaeth, galar a chladdu.
www.naturaldeath.org.uk
Sefydlwyd yr Association of Natural Burial Grounds (ANBG) gan y National Death Centre yn 1994. Erys ei nodau ac amcanion yr un fath hyd heddiw. Ei nod yw cynorthwyo pobl yn y broses o sefydlu safleoedd, rhoi arweiniad i weithredwyr mannau claddu, ac i gynrychioli ei aelodau oll. Yn hollbwysig, mae gan y Sefydliad God Ymddygiad ar gyfer aelodau, sy’n rhoi sicrwydd tymor hir i’r cyhoedd.
www.naturaldeath.org.uk/index.php?page=the-anbg
Beth i’w wneud yn dilyn marwolaeth yng Nghymru a Lloegr
Gwybodaeth ddefnyddiol a hynod fanwl ynghylch popeth y gallech fod angen ei wybod, neu ei wneud, wedi i un o’ch anwyliaid farw.
www.gov.uk/after-a-death
Y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol: dolen uniongyrchol i Gofrestrfa Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau.
www.gov.uk/general-register-office
Cymorth Galar Cruse: sefydliad sy’n gweithio i hybu lles pobl sy’n galaru a galluogi unrhyw un sy’n galaru marwolaeth i ddeall eu trallod ac ymdopi â’u colled. Mae’r sefydliad hwn yn darparu cwnsela a chymorth.
www.cruse.org.uk
Y British Humanist Association, sy’n cynnwys Dyneiddwyr Cymru: sefydliad anghrefyddol adnabyddus sy’n cynrychioli agwedd at fywyd sy’n seliedig ar ddynoliaeth a rhesymeg. Mae ganddynt weinyddwyr seremonïau ar gyfer holl achlysuron bywyd, yn cynnwys cynebryngau.
www.humanism.org.uk a humanists.uk/wales/
Gweinyddwyr Cynebryngau: gwefan ar gyfer dod o hyd i weinyddwyr lleol.
funeralcelebrants.org.uk
Much Loved: elusen gofrestredig sy’n eich helpu i greu gwefan goffa hyfryd, unigryw i goffáu bywyd eich anwyliaid.
www.muchloved.com/?rp=eternalforest