Gwerthfawrogiad o’n gwaith – gan bobl sydd wedi claddu ceraint yn y goedwig
“Rydym mor falch ein bod wedi dewis y Goedwig Dragwyddol fel ein man gorffwys terfynol – mae’n safle mor brydferth … Diolch am bopeth.”
“Dewisodd fy nheulu a minnau y Goedwig Dragwyddol fel gorffwysfa derfynol i’m mab, gan ei bod yn cynrychioli popeth roedd yn credu ynddynt yn ystod ei fywyd.
Alla i ddim dweud wrthych chi cymaint roedd yn ei olygu i mi a’m teulu … ni anghofir fyth eich caredigrwydd.”
“Roedd J yn caru cefn gwlad, y coedwigoedd a’r blodau gwyllt. Mi wn y byddai’n hapus o wybod fod ei weddillion mewn lle mor brydferth. Gadewch i mi wybod, os gwelwch yn dda, os y bydd unrhyw beth yn y dyfodol y gallaf ei wneud i helpu cadw Boduan mor brydferth a thangnefeddus ag y mae.”
“Annwyl Bella a’r criw, dim ond gair i ddweud anferth o ddiolch i chi am wneud cyfnod mor anodd ychydig bach yn haws … Roedd pawb a ddaeth i’r angladd yn dweud mor braf ydi hi yno, ac yn sicr teimlais elfen o heddwch. Dyma’r lle delfrydol i’n annwyl J.”
“Diolch o galon am eich caredigrwydd a’ch cydymdeimlad … Rydych wedi creu rhywbeth arbennig ac rwy’n siŵr y daw â heddwch i lawer o bobl am genedlaethau.”
“Hoffem ddiolch i chi’ch dwy am y ffordd garedig y trefnwyd angladd J. Unwaith eto, diolch am eich caredigrwydd.”
“Diolch o galon, Arabella. Nid oes modd i chi wybod cymaint mae’r Noddfa yn ei olygu i mi.”
“Roedd yn brydferth a thangnefeddus iawn. Dywedodd y bobl oedd yn yr angladd y byddent hwythau yn hoffi cael angladd cyffelyb.”
“Diolch i chi am ddarparu cartref mor brydferth a theilwng i’m bechgyn prydferth.”
“Mae’r Noddfa … yn le prydferth ac ni allaf feddwl am unman mwy addas.”
“Gobeithiaf fod y tueddiad i dderbyn y symbiosis o ddynoliaeth a natur yn parhau.”
“Cytunodd pawb fod y dull hwn o gladdu yn llawer llai ysgytiol na chladdu arferol ac yn cynorthwyo’r broses o wellhad … Teimlodd yn fwy naturiol ac yn rhan o gylchrediad bywyd.”
“Roedd yn brofiad mor brydferth a thangnefeddus.”
“Teimlaf yn freintiedig ac yn arbennig o ffodus i fod wedi darganfod (arlein) Ymddiriedolaeth y Goedwig Dragwyddol – coedwig brydferth Boduan – dyma’r awen ar gyfer prosiect gweledigaethol sydd wedi creu safle claddfa naturiol. Gweddnewidwyd yr hyn a allasai wedi bod yn brofiad poenus ac anodd i fod yn un hawdd a dyrchafol bob cam o’r ffordd.”
“Roedd bod yn y goedwig mor dangnefeddus. Gwnaeth diwrnod anodd yn beth prydferth.”
“Bu farw fy ngŵr yn ddiweddar ac ar ddamwain dois ar draws Billy Bodger yn y goedwig. Dysgais y grefft o weithio coed îr a gadewais y goedwig gan deimlo’n gyfoethocach a hapusach.”