Claddu corff
Cost claddu yw £850. Dyma’r taliad am lain ar gyfer un person (12.5m²/128 troedfedd sgwâr)
Mae hyn yn cynnwys clirio’r llain, cloddio’r bedd a pharatoi lle addas o’i amgylch ar gyfer y galarwyr a’r defnydd o’n elor o wiail a phren i gario’r ymadawedig at y bedd. Byddwn hefyd yn bresennol yn ystod yr angladd, yn ail-lenwi’r bedd a thacluso’r safle gan ail-blannu planhigion coedwigol megis rhedyn, ac os dymunir, plannu coeden frodorol.
Nid yw’r taliad yn cynnwys y canlynol: yr arch neu amdo, gwasanaeth arferol yr ymgymerwr angladdau, offeiriaid neu weinyddion, cerddoriaeth neu unrhyw berson proffesiynol arall a charreg goffaol ar y bedd.
- Rhodd awgrymedig: £450
Mae’r rhodd yn wirfoddol, ac o’r herwydd, nid yw’r swm yn bendant. Ond dibynna’r Elusen ar roddion, felly gofynnwn i chwi fod yn hael. Defnyddiwn y dull hwn o brisio’n gwaith oherwydd ein bod yn elusen, ac rydym am i’n gwasanaethau yn y goedwig fod mor fforddiadwy â phosib i bawb. Mae llawer o’n caredigion yn talu trethi, ac yn caniàtau i ni hawlio Cymorth Rhodd.
Cyfanswm, gan gynnwys y rhodd awgrymedig: £1,300
Llwch o’r Amlosgfa
Y taliad am gladdu neu wasgaru llwch yw £150 (llain bychan) neu £320 (llain mawr).
Gwasgaru llwch mewn rhan o’r goedwig a rennir: £60.
Mae hyn yn cynnwys clirio a chloddio’r llain, bod yn bresennol pan mae’r claddu, ac adfer y llain wedi’r gladdedigaeth.
- Rhodd awgrymedig: £120 am lain bychan neu £200 am lain mawr.
- Taliad ychwanegol i gael plannu coeden (ar lain mawr yn unig): £60, gan gynnwys y goeden frodorol.
Mae’r coed rydym yn eu cynnig i’w plannu wedi eu magu’n lleol. Gofynnwch i ni am gyngor ar ba coeden i’w dewis ar gyfer eich llain.
Nid yw carreg neu farc coffa yn gynwysiedig.
Cyfanswm, gan gynnwys y rhodd awgrymedig: £370 am lain bychan (1.5m²) neu £560 am lain mawr (6m²)
Anifeiliaid Anwes
Gellir claddu anifail anwes mewn llain sy’n perthyn i’w feistr, neu mewn lleiniau sy’n arbennig ar gyfer yr anifeiliaid hyn.
Costau’r claddu:
- Cath neu gi bychan, anifail bychan arall neu lwch: £60
- Ci canolig (megis ci defaid): £100
- Ci mawr: £150
Rhodd awgrymedig: £100
Gall y rhai sydd wedi archebu llain ar gyfer eu hunain yn y dyfodol, neu rai sydd wedi gofalu am anifail person sydd wedi ei gladdu yn y goedwig, gladdu’r anifail anwes eu hunain yn eu llain, wedi iddynt gysylltu â ni i wneud trefniadau. Os nad oes angen cymorth, ni fydd ffî yn daladwy, ond buasem yn gwerthfawrogi rhodd.
Talu’n Awr, Marw’n Hwyrach
Ffoniwch ni i drafod prisiau am ein gwasanaeth. Os ydych yn archebu’ch angladd ymlaen llaw, gellir rhannu’r costau dros gyfnod o flynyddoedd gyda’n cynllun Talu’n Awr, Marw’n Hwyrach, sy’n caniàtau i chi ddefnyddio’ch llain o’r diwrnod mae eich archeb sefydlog gyda’r banc yn dechrau. Gallwn bob amserddarganfod ffordd i chi allu fforddio claddedigaeth yng Ngwarchodfa Boduan.
Rhif ffôn: 01758 612 006 neu e-bost: eft@eternalforest.org