Ar ddyddiau disglair Rhagfyr, mae’r goedwig yn lle hyfryd i dreulio amser. Pan fo’r coed yn foel, mae’r haul yn goleuo lliwiau bywiog y rhedyn, mwsoglau a’r dail syrthiedig. Sylwn ar y gwrthgyferbyniad rhwng cennau gwelw a smotiau llachar o ffyngau ar frigau sydd wedi syrthio yn erbyn y tir llaith tywyll.