Mae dwy agwedd i Ymddiriedolaeth y Goedwig Dragwyddol (sy’n gwbl integredig): yr elusen a’r busnes. Mae ochr y busnes yn gofalu am y claddedigaethau, y seremonïau a’r cysegriadau. Mae’r Elusen yn rhedeg ar gymorth gwirfoddolwyr a chyfraniadau ar ffurf amser, sgiliau ac arian.
Gwneud Cyfraniad
PayPal: Defnyddiwch y botwm ‘Donate’, os gwelwch yn dda
Trosglwyddiad Banc: Talwch The Eternal Forest Trust, cod didoli 16-58-10, rhif cyfrif 20010516, os gwelwch yn dda.
Os ydych chi’n talu treth yn y Deyrnas Unedig, cofiwch gynnwys eich cyfeiriad post neu ebost, os gwelwch yn dda, er mwyn inni gael ychwanegu 25% mewn Rhodd Cymorth.
Effaith eich cyfraniadau
Mae angen yr arian er mwyn:
- cynnal y goedwig
- darparu claddedigaethau am ddim i fabanod
- cyfrannu at gostau claddu i bobl ar incwm llai
- galluogi gweithgareddau grŵp ac addysgol yn y goedwig
- talu ein staff a’n contractwyr
- llogi offer, prynu tŵls
Mae Ymddiriedolaeth y Goedwig Dragwyddol hefyd yn sefydlu cronfa newydd i brynu ail ddarn o dir yn ardal Arfon. Ar gyfradd bresennol y claddedigaethau yma, bydd Boduan yn llawn erbyn 2030.
Efallai yr hoffech archebu eich llain claddedigaeth eich hun, mae prisiau’n dechrau o £1300.
Croesawn gyfranwyr rheolaidd (e.e. misol). Golyga’r incwm rheolaidd hwn y gallwn wneud cynlluniau ar gyfer yr elusen yn y tymor hwy.
- Mae £8.50 yn prynu pâr o fenig taclo mieri
- Mae £25 yn prynu llif fwa 24”
- Mae £28 yn prynu 100 o blygiau blodau gwyllt
- Mae £34 yn prynu cribin tirlunio
- Mae £41 yn prynu siswrn tocio da
- Mae £50 yn prynu pâr o wellau tocio trwm
- Mae £132 yn talu i logi peiriant rhwygo am ddiwrnod
Cysylltwch â ni’n uniongyrchol i wneud cyfraniad drwy anfon siec neu i drefnu archeb sefydlog.