Chwilio Am Safle Ar Ynys Môn I Greu Mynwent Newydd

Rydym yn elusen gyda chenhadaeth i greu mwy o diroedd claddu mewn coetir. Allwch chi ein helpu i wneud hyn? Ydych chi’n berchen ar unrhyw dir ar Ynys Môn? A wyddoch chi am unrhyw leiniau bach o dir ar werth yno? (tua 2 erw) – gyda mynediad ffordd da? Rydym wedi edrych yn ofalus ar un safle posibl, ond mae’n ddrud iawn. Er mwyn cadw ein costau i lawr rydym yn dal i edrych.

A fyddech chi’n gallu ein helpu gydag arian? Ydych chi’n dda am godi arian? Hoffech chi addo plot? Ydych chi’n drefnydd, neu’n berson pobl, ydych chi’n siarad Cymraeg (croeso i ddysgwyr!) neu â sgiliau TG? Oes gennych chi rywbeth arall i’w gynnig?

Yna meddyliwch am ymuno â’n Tîm Craidd Ynys Môn. Helpa ni i geisio barn o bob rhan o’r ynys (cyfarfodydd cyhoeddus, curo drysau), gwneud cais am grantiau, trefnu cyfarfodydd cyhoeddus a llawer mwy.

Cysylltwch â ni ar Facebook, ffoniwch y swyddfa neu e-bostiwch ni.

Edrychwn ymlaen at gael ein pennau at ein gilydd!