Hoffem rannu rhai diweddariadau a nodiadau atgoffa pwysig gyda phawb sy’n ymweld â’r Goedwig Dragwyddol ac sy’n gofalu amdano. Rydym yn deall pa mor bwysig yw cael lle i gofio ac anrhydeddu rhywun yr ydych yn ei garu, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y gofal a’r ystyriaeth y mae teuluoedd yn eu dangos tuag at y goedwig.
Archebion ymlaen llaw ac archebion cyn angen
Oherwydd y nifer cyfyngedig o leiniau sydd ar ôl yn y goedwig, nid ydym bellach yn gallu cynnig archebion ymlaen llaw nac archebion cyn angen o unrhyw fath.
Rydym yn deall y gallai hyn fod yn siomedig i rai teuluoedd, ond mae’r penderfyniad hwn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu rheoli’r lleoedd sydd ar ôl yn deg ac yn gyfrifol.
Marcwyr beddau a chofebion
Gofynnwn yn garedig i chi gysylltu â ni cyn dod ag unrhyw beth i mewn i’r godwig, cyn gosod unrhyw beth ar fedd neu yn ei ymyl, er mwyn gwirio bod yr eitem yn cael ei chaniatáu o dan rheoliadau’r elusen.
Er mwyn gwarchod harddwch naturiol a chymeriad Y Goedwig Dragwyddol, ni ddylid marcio, amlinellu nac amgáu bedd mewn unrhyw ffordd ac eithrio gydag un marciwr bedd wedi’i engrafu.
Rhaid i’r marciwr bedd gael ei wneud o garreg naturiol heb ei thorri a heb ei sgleinio, ac ni chaniateir arysgrifau wedi’u paentio.
Peidiwch â defnyddio cerrig, brigau, canghennau nac unrhyw ddeunyddiau eraill i greu ffin neu berimedr o amgylch bedd. Rydym yn deall yn llwyr yr awydd i greu lle arbennig a phersonol i gofio rhywun annwyl, ond ni chaniateir ychwanegiadau o’r fath yn y goedwig.
Os caiff eitem ei gosod ar fedd neu o’i amgylch heb gymeradwyaeth ac nad yw’n cydymffurfio â’n rheoliadau, efallai y bydd angen i ni ei symud heb rybudd ymlaen llaw.
Gobeithiwn y bydd cysylltu â ni ymlaen llaw yn helpu i osgoi unrhyw ofid neu siom.
Blodau, planhigion a theyrngedau naturiol
Gellir gosod blodau ffres wedi’u torri ar fedd, ar yr amod nad oes unrhyw becynnu gyda nhw.
Gellir hefyd osod torch sy’n gwbl fioddiraddadwy ar fedd.
Sylwch nad yw Oasis o unrhyw fath, gan gynnwys Oasis bioddiraddadwy, yn cael ei ganiatáu. Mae hyn oherwydd y gall fod yn niweidiol i amgylchedd y goedwig.
Os hoffech blannu rhywbeth ar fedd rhywun annwyl, gallwch brynu planhigion, coed a blodau gwyllt o’n meithrinfa blanhigion ar Rowan Path.
Gallwch dalu drwy roi arian parod yn y tun y tu ôl i’r arwydd neu yn y blwch rhoddion yn y ‘Tree Bog’.
Weithiau, gall hadau fod ar gael ar y silff yn y ‘Tree Bog’ hefyd. Os cymerwch hadau, rhowch eich taliad yn y blwch rhoddion.
Rydym yn gwybod y gall y rheolau deimlo’n gyfyngol weithiau, yn enwedig pan mai’r cyfan rydych chi am ei wneud yw creu teyrnged ystyrlon i rywun rydych chi’n eu caru. Mae’r canllawiau hyn yn bodoli i ddiogelu’r goedwig ac i sicrhau bod Y Goedwig Dragwyddol yn parhau i fod yn lle heddychlon, naturiol a hardd i bawb, nawr ac i genedlaethau’r dyfodol.
Os nad ydych yn siŵr a yw rhywbeth yn cael ei ganiatáu, cysylltwch â ni cyn mynd ag ef i’r goedwig. Rydym bob amser yn hapus i egluro’r canllawiau a’ch helpu i ddod o hyd i ffordd briodol o gofio eich anwylyd.
Diolch i chi am eich dealltwriaeth, am eich gofal dros y goedwig, ac am ein helpu i warchod harddwch naturiol a chymeriad Y Goedwig Dragwyddol.
01758 612006