Parti Canol Haf 2026

Ymunwch â ni ddydd Sul 21 Mehefin 11.30yb tan 2yp ar gyfer ein Parti Canol Haf blynyddol! Rydym yn falch iawn o allu cynnal parti canol haf eto eleni, ac mae’n edrych fel y gallai’r tywydd fod ar ein hochr ni hefyd.Byddwn yn y goedwig o 11.30yb tan 2yp, croeso i bawb, po fwyaf, gorau oll.

Bydd gweithgareddau i’r plant a byddem wrth ein bodd pe bai pawb sydd â offeryn ac sy’n gallu ei chwarae yn dod ag ef gyda nhw.

Os gallwch chi, dewch â chyfraniad at y bwrdd bwyd, efallai eich hoff salad neu ddanteithion melys neu sawrus i’w rhannu.

Mae’r parti am ddim i fynychu ond fel bob amser rydym yn derbyn rhoddion yn ddiolchgar.

Gobeithiwn eich gweld chi yno.