Category: Cylchlythyr

Medi 2023 – Cylchlythyr 137

Dwi mor falch ei fod wedi bod yn bwrw glaw! ‘Roedd y ffyngau bron â diflannu ar ôl y tywydd poeth diweddar ac ‘roeddwn yn poeni na fyddai dim i’w ddarganfod dydd Sul nesaf, pan fydd Charles Aron y dod i’r coed i’n dysgu amdanynt.

Y Goedwig Dragwyddol yn yr Eisteddfod 5-12fed Awst

Mae’n amser Eisteddfod, a fydd hi byth mor agos at ein tir claddu a hyn eto! Ydach chi’n ddysgwr Cymraeg, neu’n siaradwr, ac yn medru helpu ni i rhedeg stondin ar y maes? Neu helpu ar ein safle i rhoi taflenni allan? Unrhyw amser rhwng 5ed a 12fed o Awst. Dewch i gefnogi’r goedwig yr… Read more »

Chwilio Am Safle Ar Ynys Môn I Greu Mynwent Newydd

Rydym yn elusen gyda chenhadaeth i greu mwy o diroedd claddu mewn coetir. Allwch chi ein helpu i wneud hyn? Ydych chi’n berchen ar unrhyw dir ar Ynys Môn? A wyddoch chi am unrhyw leiniau bach o dir ar werth yno? (tua 2 erw) – gyda mynediad ffordd da? Rydym wedi edrych yn ofalus ar… Read more »

Boduan Canol Haf – Cylchlythyr 136 – Haf 2023

Wannwl! Mae hi wedi bod yn boeth! Yr wythnos ddiweddaf, unwaith eto, cyhoeddwyd Porthmadog (15 milltir o’r coed) fel y lle poethaf ym Mhrydain. Ond mae gennym yr ateb: mynd am dro yn y goedwig. Os ydych chi’n rhy bell o Foduan i gerdded yn ein coedwig hyfryd, ewch o hyd i un arall –… Read more »

Nadolig Llawen – Cylchlythyr 134 – Rhagfyr 2022

Mae’n amser dathlu! Croeso i’r haul sy’n dychwelyd! O ddydd Mercher ymlaen mae’r dyddiau’n mynd yn hirach! Mae’r adar wedi dechrau canu eto, mae’r dryw bach – Brenin y Gaeaf, yn ôl llên gwerin – i’w weld yn hercian i mewn ac allan o bentyrrau o foncyffion, a’r robin goch mor niferus, siriol a chyfeillgar… Read more »

Hydref yn yr Goedwig – Cylchlythyr 133 – Hydref 2022

‘Rwyf bob tro’n teimlo braidd yn drist ar Gyhydnos yr Hydref; trist y bydd y nosweithiau’n hir am chwe mis cyfan; trist nad yw’r heulwen a welwn yn dod a’r cynhesrwydd yr oeddem wedi’i fwynhau. Ond mae yna fuddion, yn enwedig yr hydref hwn, sy’n gyfnod cyffrous iawn i Coedwig Boduan.

Haf yn y Goedwig – Cylchlythyr 132 – Awst 2022

Mae hi wedi bod mor sych yn y coed yr haf hwn, mae’r ddaear fel concrit o dan yr uwchbridd tywyll cyfoethog. Dwi erioed wedi gweld y nant mor isel. Ond o leiaf mae gennym ni nant ac mae’n dal i redeg, felly mae gennym ni ddwr. Ac mae’n rhaid bod dwr yn y ddaear,… Read more »

Gwanwyn yn y Goedwig – Cylchlythyr 131 – Mawrth 2022

Roedd mis Mawrth yn fis euraidd. Heulwen euraidd – torri record, yn ol y Swyddfa Dywydd – cennin pedr euraidd, llym y llygad, dant llew, briallu – wel, mwy o lemwn nag aur ond siawns na fyddwch chi’n caniatau ychydig o drwydded farddonol?

Croeso i gylchlythr cyntaf 2022 – Cylchlythyr 130 – Ionawr 2022

Croeso i gylchlythr cyntaf 2022! Mae Ionawr bron ar ben a ‘rwyf mor hapus i weld arwyddion o’r gwanwyn o’r diwedd! Mae’n cynyddu’n raddol o hyn ymlaen: bydd dail ifanc ffres y gwyddfid yn cysylltu â dail baban y ddraenen wen a’r rhosyn, yna bydd helyg a cheirios, ac ymlaen maen’n mynd, y goedwig yn… Read more »