‘Rwyf bob tro’n teimlo braidd yn drist ar Gyhydnos yr Hydref; trist y bydd y nosweithiau’n hir am chwe mis cyfan; trist nad yw’r heulwen a welwn yn dod a’r cynhesrwydd yr oeddem wedi’i fwynhau. Ond mae yna fuddion, yn enwedig yr hydref hwn, sy’n gyfnod cyffrous iawn i Coedwig Boduan.
