Mae blynyddoedd ers i mi gerdded drwy’r coed gyda’r nos. Ar Noson Tân Gwyllt roedd yn dawel ar wahân i sŵn adar, ni allech ei alw’n gân. Cigfrain, efallai? Rydyn ni wedi eu gweld yn hedfan yn ystod y dydd. Safai coed di-ddail yn llonydd, Sgerbydau duon tal dan awyr serennog; roedd yn ymddangos mai’r unig greaduriaid a oedd yn symud oedd fy nghi bach, Baskerville a minnau.