Wannwl! Mae hi wedi bod yn boeth! Yr wythnos ddiweddaf, unwaith eto, cyhoeddwyd Porthmadog (15 milltir o’r coed) fel y lle poethaf ym Mhrydain. Ond mae gennym yr ateb: mynd am dro yn y goedwig. Os ydych chi’n rhy bell o Foduan i gerdded yn ein coedwig hyfryd, ewch o hyd i un arall – oherwydd mae’r tymheredd mewn coetir yn sylweddol is nag ydyw ar dir cyfagos sydd heb coed.