Cysylltiadau Gwyrdd

Trees for Life: Cwbl anhepgor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn coed!
www.treesforlife.org.uk

Yr International Tree Foundation: Mae’r ITF yn sefydliad 80 mlwydd oed sy’n ymdrechu i wireddu byd sy’n gyfoeth o goed, drwy blannu, gwarchod ac addysgu pobl am werth coed yn fyd-eang. Mae’r ITF yn elusen gofrestredig yn y Deyrnas Unedig, ac mae ei haelodau’n gweithio yn eu cymunedau lleol ac ar lefel byd-eang. Mae grantiau plannu coed yr ITF yn helpu amgylcheddau a chymdeithasau tlotaf y byd.
www.internationaltreefoundation.org

CAT – Canolfan y Dechnoleg Amgen.
Mae’r ganolfan arloesol hon sy’n gweithio i hybu’r holl dechnolegau sy’n ein helpu i fyw mewn cytgord â’n planed. Mae’r ganolfan yn arddangos y technolegau hyn ar waith, ac mae ganddi gyfleuster addysg sy’n helpu i rannu gwybodaeth am dechnoleg amgen i bawb sydd eisiau cael gwybod.
www.cat.org.uk

Y Green Providers Directory: safle mawr sy’n darparu adnodd dielw anferth ar gyfer dod o hyd i nwyddau a gwasanaethau gwyrdd, organig a masnach deg. Mae’r safle’n cynnwys dolenni i gyflenwyr ynni adnewyddadwy, nwyddau iechyd a harddwch organig, dillad ac anrhegion organig, nwyddau organig i’r cartref, gyrfaoedd moesegol ac amrywiaeth eang o wasanaethau, yn cynnwys gwrthbwyso carbon, adeiladu cynaliadwy, rhannu lifftiau, ac ailgylchu papur.
www.green-providers.co.uk

Wildlife & Countryside Services: safle eang sy’n cynnwys gwybodaeth ar bopeth o arddio bywyd gwyllt i reoli coedwigoedd, o ymgynghoriaeth ecolegol i addysg amgylcheddol – adnodd gwirioneddol werthfawr.
www.wildlifeservices.co.uk