Boduan Canol Haf – Cylchlythyr 136 – Haf 2023

Wannwl! Mae hi wedi bod yn boeth! Yr wythnos ddiweddaf, unwaith eto, cyhoeddwyd Porthmadog (15 milltir o’r coed) fel y lle poethaf ym Mhrydain. Ond mae gennym yr ateb: mynd am dro yn y goedwig. Os ydych chi’n rhy bell o Foduan i gerdded yn ein coedwig hyfryd, ewch o hyd i un arall – oherwydd mae’r tymheredd mewn coetir yn sylweddol is nag ydyw ar dir cyfagos sydd heb coed.

(more…)

Cyfarfod Cyhoeddus – 12 Mehefin 2023

Rydym yn eich gwahodd i ddod i Gyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd St Cyngar, Llangefni LL77 7EB ar Nos Lun 12 Mehefin am 7pm. Hoffai’r Ymddiriedolaeth Goedwig Dragwyddol rannu ei syniadau am greu tir claddu naturiol ar Ynys Môn. Byddai’n rhan o goedtir a rhan o blodau gwyllt, sy’n agored i bawb. Dewch i sgwrsio dros de a bisgedi! (more…)

Mae’r nosweithiau’n mynd yn fyrrach – Cylchlythyr 135 – Gwanwyn 2023

Mae’n Wanwyn! Mae’r nosweithiau’n mynd yn fyrrach a’r haul yn codi’n uwch yn yr awyr bob dydd, gan oleuo lleoedd sydd wedi bod dan gysgod am y chwe mis diwethaf, gan ddod a golau a bywyd a llawenydd. Nid yw mis Mawrth yn mynd allan fel oen ond nid oes gan y gwynt sy’n chwythu trwy’r coed ddannedd rhewllyd mwyach. Neu ddim heddiw o leiaf!

(more…)

Nadolig Llawen – Cylchlythyr 134 – Rhagfyr 2022

Mae’n amser dathlu! Croeso i’r haul sy’n dychwelyd! O ddydd Mercher ymlaen mae’r dyddiau’n mynd yn hirach! Mae’r adar wedi dechrau canu eto, mae’r dryw bach – Brenin y Gaeaf, yn ôl llên gwerin – i’w weld yn hercian i mewn ac allan o bentyrrau o foncyffion, a’r robin goch mor niferus, siriol a chyfeillgar ag erioed.

(more…)

Hydref yn yr Goedwig – Cylchlythyr 133 – Hydref 2022

‘Rwyf bob tro’n teimlo braidd yn drist ar Gyhydnos yr Hydref; trist y bydd y nosweithiau’n hir am chwe mis cyfan; trist nad yw’r heulwen a welwn yn dod a’r cynhesrwydd yr oeddem wedi’i fwynhau. Ond mae yna fuddion, yn enwedig yr hydref hwn, sy’n gyfnod cyffrous iawn i Coedwig Boduan.

(more…)

Haf yn y Goedwig – Cylchlythyr 132 – Awst 2022

Mae hi wedi bod mor sych yn y coed yr haf hwn, mae’r ddaear fel concrit o dan yr uwchbridd tywyll cyfoethog. Dwi erioed wedi gweld y nant mor isel. Ond o leiaf mae gennym ni nant ac mae’n dal i redeg, felly mae gennym ni ddwr. Ac mae’n rhaid bod dwr yn y ddaear, oherwydd mae’r coed, y rhedyn a’r mieri yn parhau i fod mor ogoneddus o wyrdd, gan amsugno’r heulwen. (more…)

Gwanwyn yn y Goedwig – Cylchlythyr 131 – Mawrth 2022

Roedd mis Mawrth yn fis euraidd. Heulwen euraidd – torri record, yn ol y Swyddfa Dywydd – cennin pedr euraidd, llym y llygad, dant llew, briallu – wel, mwy o lemwn nag aur ond siawns na fyddwch chi’n caniatau ychydig o drwydded farddonol? (more…)

Croeso i gylchlythr cyntaf 2022 – Cylchlythyr 130 – Ionawr 2022

Croeso i gylchlythr cyntaf 2022! Mae Ionawr bron ar ben a ‘rwyf mor hapus i weld arwyddion o’r gwanwyn o’r diwedd! Mae’n cynyddu’n raddol o hyn ymlaen: bydd dail ifanc ffres y gwyddfid yn cysylltu â dail baban y ddraenen wen a’r rhosyn, yna bydd helyg a cheirios, ac ymlaen maen’n mynd, y goedwig yn troi’n wyrdd yn raddol wrth i’r dyddiau ymestyn. Mae cynffonau’r wyn cyntaf eisoes wedi ymddangos ar yr helyg a byddwn yn gweld rhagor yn fuan. (more…)