Category: Cylchlythyr

Medi 2025 – Cylchlythyr 145

Autumn arrived suddenly this year. After months of drought and sunshine, we have welcome rain. Bright autumn leaves, red and gold, are falling early from some of the trees; they’ve done their job, generating incredible rates of growth, especially in those parts of the wood which were devastated by Storm Darragh last December.

Wedi’r Storm – Cylchlythyr 143

Mae’r goedwig yn llonydd, tawel a chlwyfedig. Cerddaf am ychydig, gan ddringo dros boncyffion gorweddog, heibio’r gysgodfa, yn anelu at ddinistr. Nid oes ffordd ymlaen, mae’r llwybrau i bob cyfeiriad wedi cau ac mae cymaint o goed ar y llawr fel na allaf fynd heibio iddynt.

Hydref – Cylchlythyr 142

Mae Cyhydnosyr Hydref, sy’n nodi dechrau swyddogol yr hydref, yn disgyn ar 22 Medi, yn union fel yr wyf yn gorffen y cylchlythyr hwn; ond o ran Coed Noddfa Boduan, dechreuodd y tymhorau newid ym mis Awst. Roedd y llwybrau eisoes yn euraidd efo dail bedw a syrthiodd saith wythnos yn ol.

Mae’n Wanwyn – Cylchlythyr 140

Mae Cydhydnos y Gwanwyn wedi cyrraedd ac wrth i mi ysgrifennu, mae hyd y dydd a’r nos yn gyfartal. Yfory bydd y dydd yn hirach na’r nos ac mae’r pren yn deffro’n gyflym. Efallai y bydd yn teimlo’n oer ond mae’r haul yn dod â gobaith a llawenydd.

Heuldro Hapus – Cylchlythyr 139

Ar ddyddiau disglair Rhagfyr, mae’r goedwig yn lle hyfryd i dreulio amser. Pan fo’r coed yn foel, mae’r haul yn goleuo lliwiau bywiog y rhedyn, mwsoglau a’r dail syrthiedig. Sylwn ar y gwrthgyferbyniad rhwng cennau gwelw a smotiau llachar o ffyngau ar frigau sydd wedi syrthio yn erbyn y tir llaith tywyll.

Tachwedd yn y Coedwig – Cylchlythyr 138

Mae blynyddoedd ers i mi gerdded drwy’r coed gyda’r nos. Ar Noson Tân Gwyllt roedd yn dawel ar wahân i sŵn adar, ni allech ei alw’n gân. Cigfrain, efallai? Rydyn ni wedi eu gweld yn hedfan yn ystod y dydd. Safai coed di-ddail yn llonydd, Sgerbydau duon tal dan awyr serennog; roedd yn ymddangos mai’r… Read more »

Medi 2023 – Cylchlythyr 137

Dwi mor falch ei fod wedi bod yn bwrw glaw! ‘Roedd y ffyngau bron â diflannu ar ôl y tywydd poeth diweddar ac ‘roeddwn yn poeni na fyddai dim i’w ddarganfod dydd Sul nesaf, pan fydd Charles Aron y dod i’r coed i’n dysgu amdanynt.

Y Goedwig Dragwyddol yn yr Eisteddfod 5-12fed Awst

Mae’n amser Eisteddfod, a fydd hi byth mor agos at ein tir claddu a hyn eto! Ydach chi’n ddysgwr Cymraeg, neu’n siaradwr, ac yn medru helpu ni i rhedeg stondin ar y maes? Neu helpu ar ein safle i rhoi taflenni allan? Unrhyw amser rhwng 5ed a 12fed o Awst. Dewch i gefnogi’r goedwig yr… Read more »

Chwilio Am Safle Ar Ynys Môn I Greu Mynwent Newydd

Rydym yn elusen gyda chenhadaeth i greu mwy o diroedd claddu mewn coetir. Allwch chi ein helpu i wneud hyn? Ydych chi’n berchen ar unrhyw dir ar Ynys Môn? A wyddoch chi am unrhyw leiniau bach o dir ar werth yno? (tua 2 erw) – gyda mynediad ffordd da? Rydym wedi edrych yn ofalus ar… Read more »

Boduan Canol Haf – Cylchlythyr 136 – Haf 2023

Wannwl! Mae hi wedi bod yn boeth! Yr wythnos ddiweddaf, unwaith eto, cyhoeddwyd Porthmadog (15 milltir o’r coed) fel y lle poethaf ym Mhrydain. Ond mae gennym yr ateb: mynd am dro yn y goedwig. Os ydych chi’n rhy bell o Foduan i gerdded yn ein coedwig hyfryd, ewch o hyd i un arall –… Read more »