Mae’r goedwig yn llonydd, tawel a chlwyfedig. Cerddaf am ychydig, gan ddringo dros boncyffion gorweddog, heibio’r gysgodfa, yn anelu at ddinistr. Nid oes ffordd ymlaen, mae’r llwybrau i bob cyfeiriad wedi cau ac mae cymaint o goed ar y llawr fel na allaf fynd heibio iddynt.
