Author: Admin

Heuldro Hapus – Cylchlythyr 139

Ar ddyddiau disglair Rhagfyr, mae’r goedwig yn lle hyfryd i dreulio amser. Pan fo’r coed yn foel, mae’r haul yn goleuo lliwiau bywiog y rhedyn, mwsoglau a’r dail syrthiedig. Sylwn ar y gwrthgyferbyniad rhwng cennau gwelw a smotiau llachar o ffyngau ar frigau sydd wedi syrthio yn erbyn y tir llaith tywyll.

Gwneud Torch – 13th Rhagfyr 2023

Coedwig Boduan Dydd Mercher 13 Rhagfyr 11am-2pm Ymunwch â ni yng nghoediwg Boduan. Gwisgwch ddillad addas ar gyfer y tywydd. Lleoliad | Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth | Cyfrannu

Tachwedd yn y Coedwig – Cylchlythyr 138

Mae blynyddoedd ers i mi gerdded drwy’r coed gyda’r nos. Ar Noson Tân Gwyllt roedd yn dawel ar wahân i sŵn adar, ni allech ei alw’n gân. Cigfrain, efallai? Rydyn ni wedi eu gweld yn hedfan yn ystod y dydd. Safai coed di-ddail yn llonydd, Sgerbydau duon tal dan awyr serennog; roedd yn ymddangos mai’r… Read more »

Cyfarfod Cyhoeddus – 29 Medi 2023

Rydym yn eich gwahodd i ddod i Gyfarfod Cyhoeddus yn Canolfan Hen Ysgol Bodorgan, Ynys Môn LL62 5AB ar Noswaith Gwener 29 Medi am 7 o’r gloch. Hoffai’r Ymddiriedolaeth Goedwig Dragwyddol rannu ei syniadau am greu tir claddu naturiol ar Ynys Môn. Byddai’n rhan o goedtir a rhan o blodau gwyllt, sy’n agored i bawb…. Read more »

Medi 2023 – Cylchlythyr 137

Dwi mor falch ei fod wedi bod yn bwrw glaw! ‘Roedd y ffyngau bron â diflannu ar ôl y tywydd poeth diweddar ac ‘roeddwn yn poeni na fyddai dim i’w ddarganfod dydd Sul nesaf, pan fydd Charles Aron y dod i’r coed i’n dysgu amdanynt.

Dysgu adnabod ffyngau – 17 Medi 2023

Gwarchodfa Boduan dydd Sul Medi 17eg 2 o’r gloch ymlaen A yw’n wenwynig neu’n ddiogel a blasus? Dargafyddwch gyda’r arbenigwr ffwng Charles Aron.

Podcast Silent Why efo Claire Sandys

Cyfarfu ein rheolwr Julia Everitt â Claire Sandys o’r Silent Why i siarad am yr Ymddiriedolaeth Coedwig Tragwyddol a chladdedigaethau coetir naturiol. Darganfyddwch fwy ar wefan Silent Why. www.thesilentwhy.com/post/theeternalforest

Y Goedwig Dragwyddol yn yr Eisteddfod 5-12fed Awst

Mae’n amser Eisteddfod, a fydd hi byth mor agos at ein tir claddu a hyn eto! Ydach chi’n ddysgwr Cymraeg, neu’n siaradwr, ac yn medru helpu ni i rhedeg stondin ar y maes? Neu helpu ar ein safle i rhoi taflenni allan? Unrhyw amser rhwng 5ed a 12fed o Awst. Dewch i gefnogi’r goedwig yr… Read more »

Chwilio Am Safle Ar Ynys Môn I Greu Mynwent Newydd

Rydym yn elusen gyda chenhadaeth i greu mwy o diroedd claddu mewn coetir. Allwch chi ein helpu i wneud hyn? Ydych chi’n berchen ar unrhyw dir ar Ynys Môn? A wyddoch chi am unrhyw leiniau bach o dir ar werth yno? (tua 2 erw) – gyda mynediad ffordd da? Rydym wedi edrych yn ofalus ar… Read more »

Cyfarfod Cyhoeddus – 12 Mehefin 2023

Rydym yn eich gwahodd i ddod i Gyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd St Cyngar, Llangefni LL77 7EB ar Nos Lun 12 Mehefin am 7pm. Hoffai’r Ymddiriedolaeth Goedwig Dragwyddol rannu ei syniadau am greu tir claddu naturiol ar Ynys Môn. Byddai’n rhan o goedtir a rhan o blodau gwyllt, sy’n agored i bawb. Dewch i sgwrsio dros… Read more »