COVID-19: Polisi Diogelwch yng Ngwarchodfa Boduan

Er mwyn diogelu ymwelwyr ac aelodau o’n staff yn y Goedwig Dragwyddol, mae’r mesurau diogelwch canlynol yn dod i rym ar unwaith.

Peidiwch ag ymweld â’r goedwig os ydych chi neu aelod o’ch teulu yn dangos unrhyw un o symptomau’r firus, neu’n teimlo’n wael. Dylai pob aelod o’ch cartref hunan-ynysu a chadw draw o’r goedwig am gyfnod o 7 i 14 diwrnod dan yr amgylchiadau uchod.

Os ydych yn ymweld â’r goedwig, sicrhewch fod o leiaf dwy fedr rhyngddoch chi a phawb arall sydd ddim yn aelod o’ch cartref.

Gwisgwch fenyg neu golchwch eich dwylo gyda sebon a dŵr poeth neu hylif diheintio dwylo ag alcohol ar ôl i chi gyffwrdd y giât neu ddrws y toiled.

Peidiwch â defnyddio’r toiled os nad yw’n hollol angenrheidiol, ond os oes raid, golchwch eich dwylo neu ddefnyddio diheintydd alcohol cyn ac ar ôl defnyddio’r toiled.

Pan yn parcio, cadwch o leiaf 2.5 metr rhwng y ceir a pheidiwch â rhannu car efo unrhyw un sydd ddim o’ch cartref chi.

Gall y maes parcio gymryd 8 car ar unrhyw un achlysur. Pan fydd claddedigaeth, bydd 2 neu 3 gofod yn cael ei gymryd gan ein staff a’r hers, felly cyfyngir nifer y gofidwyr i 6 car, gan gofio na ddylid rhannu car gyda phobol o’r tu allan i’ch cartref.

Ar bob achlysur dylid dilyn cyfarwyddiadau/canllawiau’r llywodraeth.

Mae’r rheolau hyn yn angenrheidiol er mwyn arbed lledaenu’r firus C19, a gallant gael eu haddasu fel bo’r angen yn dilyn argymhellion y llywodraeth.