Sara Roberts

Deuthum yn ymwybodol o waith y Goedwig am y tro cyntaf pan gladdwyd ffrind annwyl yno yn 2011. Yna deuthum i adnabod Bella a Berni trwy ein cysylltiadau a’n diddordebau ac yn fy rôl fel gweinidog yr efengyl yn gweinyddu mewn angladdau eraill yn y coed. Gwerthfawrogais ethos a phwrpas yr Ymddiriedolaeth ac roedd yn cyd-fynd â’m dymuniad fy hun i annog ffordd wyrddach a mwy cynaliadwy o gladdu’r meirw a chyda’r pryder ecolegol ehangach ar gyfer hyrwyddo bioamrywiaeth a gwarchod rhywogaethau brodorol.

Ychydig flynyddoedd yn ôl cefais wahoddiad i fod yn ymddiriedolwr ac mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint cael chwarae rhan fechan yng ngwaith pwysig y Goedwig Dragwyddol, ac yn arbennig nawr edrych tuag at ddatblygu ail safle i barhau i wasanaethu pobl leol.

Pwy ydym ni