Goedwig Dragwyddol – rhestr o wasanaethau a phrisiau 2025
Rhestr o’n Gwasanaethau | Blaendal | Ffi gwasanaeth | Cyfraniad awgrymedig | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|
Llain claddedigaeth sengl | £295 | £1110 | £590 | £1700 |
Llain llwch 4m2 | £295 | £440 | £310 | £750 |
Llwch (bach) 1m2 | – | £220 | £155 | £375 |
Mainc wladaidd | – | £200 | Croesewir rhoddion |
Pet Burial Prices | Ffi gwasanaeth | Cyfraniad awgrymedig | Cyfanswm |
---|---|---|---|
Llwch ychwanegol ar safle bedd presennol | £65 | £80 | £145 |
Anifail anwes bach heb arch | £105 | £85 | £190 |
Ci maint canolig heb arch neu anifail anwes bychan mewn arch | £170 | £105 | £275 |
Ci mawr heb arch neu gi o faint canolig mewn arch | £230 | £130 | £360 |
Cerrig beddi | Ffi gwasanaeth | Symbol ychwanegol |
---|---|---|
Enw yn unig – Llechi bach | £70 | n/a |
Enw a dyddiad yn unig – Llechi canolig | £140 | o £50 |
Hyd at 55 o nodau – Llechi mawr | £280 | o £50 |
Claddu corff
Mae hyn yn cynnwys clirio’r llain, cloddio’r bedd a pharatoi lle addas o’i amgylch ar gyfer y galarwyr a cewch ddefnyddio ein helor o wiail a phren i gludo’r ymadawedig at y bedd. Byddwn hefyd yn bresennol yn ystod yr angladd, yn ail-lenwi’r bedd ac adfer y safle gan ail-blannu planhigion coedwigol megis rhedyn ac, os dymunir, plannu coeden frodorol.
Nid yw’r taliad yn cynnwys y canlynol: yr arch neu liain amwisg, nac ychwaith y gwasanaethau a ddarperir fel arfer gan ymgymerwr angladdau; offeiriaid neu weinyddion, cerddorion neu unrhyw berson proffesiynol arall; carreg goffa ar y bedd.
Gwirfoddol yw’r cyfraniad ariannol, ac o’r herwydd, nid yw’r swm yn bendant. Ond dibynna’r elusen ar roddion, felly gofynnwn i chwi fod yn hael. Defnyddiwn y dull hwn o brisio’n gwaith oherwydd mai elusen ydym, ac rydym am i’n gwasanaethau yn y goedwig fod mor fforddiadwy â phosib i bawb. Mae llawer o’r rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau’n drethdalwyr, ac yn caniatáu inni hawlio rhodd cymorth.
Llwch o’r amlosgfa
Mae hyn yn cynnwys clirio a chloddio’r llain, bod yn bresennol yn ystod y claddu, ac adfer y llain wedi’r gladdedigaeth.
Mae ffi ychwanegol i’w thalu os dymunwch inni blannu coeden (ar gael ar leiniau mawr yn unig). Mae’r coed rydym yn eu cynnig i’w plannu wedi’u tyfu’n lleol. Gofynnwch i ni am gyngor ar ba goeden i’w dewis ar gyfer eich llain.
Nid yw’n cynnwys carreg goffa ar y bedd.
Anifeiliaid Anwes
Gellir claddu anifail anwes mewn llain sy’n perthyn i’w feistr, neu mewn lleiniau arbennig ar gyfer anifeiliaid anwes.
Gall y rhai sydd wedi archebu llain ar gyfer eu hunain yn y dyfodol, neu rai sydd wedi gofalu am anifail rhywun sydd wedi’i gladdu yn y goedwig, gladdu’r anifail anwes eu hunain yn eu llain, wedi iddynt gysylltu â ni i wneud trefniadau. Os nad oes angen cymorth arnoch, ni fydd ffi yn daladwy, ond buasem yn gwerthfawrogi rhodd. Mae angen inni gael gwybod cyn i anifail anwes gael ei gladdu.
Rhif ffôn: 01758 612 006 neu e-bost: eft@eternalforest.org