{"id":221,"date":"2018-05-14T11:24:32","date_gmt":"2018-05-14T10:24:32","guid":{"rendered":"https:\/\/www.eternalforest.org\/?page_id=221"},"modified":"2023-09-20T13:24:15","modified_gmt":"2023-09-20T12:24:15","slug":"taith-gerdded","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/taith-gerdded\/","title":{"rendered":"Tro drwy\u2019r Coed"},"content":{"rendered":"<p>Mae cariad at goed yn reddfol i ddynolryw. Rydym yn edmygu eu godidowgrwydd, yn ymhyfrydu yn y blodau a\u2019r rhedyn wrth eu bonion, yn mwynhau anadlu eu peraroglau. Gallwn ddarganfod tawelwch yng ngolau amryliw tyner y goedwig, a synhwyro\u2019r cysylltiadau di-rif rhyngom ni \u00e2 bywyd y goedwig.<\/p>\n<p>Fel y dywedodd R. Williams Parry yn ei gerdd \u2018Eifionydd\u2019:<\/p>\n<blockquote><p><em>A llonydd gorffenedig<br \/>\nYw llonydd y L\u00f4n Goed,<br \/>\nO fwa\u2019i tho plethedig<br \/>\nI\u2019w glaslawr dan fy nhroed.<br \/>\nI lan na thref nid arwain ddim<br \/>\nOnd hynny nid yw ofid im.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Gweler isod am daith drwy\u2019r goedwig, neu ewch i wefan Silent Why lle bu ein rheolwr Julia Everitt yn siarad \u00e2 Claire Sandys am y Goedwig Dragwyddol a chladdedigaethau coetir:<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.thesilentwhy.com\/post\/theeternalforest\">www.thesilentwhy.com\/post\/theeternalforest<\/a><\/p>\n<hr \/>\n<div id=\"attachment_222\" style=\"width: 360px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-222\" class=\"wp-image-222 size-full\" src=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk1.jpg\" alt=\"\" width=\"350\" height=\"233\" srcset=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk1.jpg 350w, https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk1-300x200.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 350px) 100vw, 350px\" \/><p id=\"caption-attachment-222\" class=\"wp-caption-text\">(Photo: Terry Mills)<\/p><\/div>\n<p>Gallwn elwa gorff ac enaid o fod ymysg coed, yn anadlu\u2019r gwyrddni. Mae gan bobl Japan air am hyn: shinrin-yoku \u2013 ymdrochi yn y coed. Mae tystiolaeth wyddonol sy\u2019n profi y gall fod yn llesol i\u2019r enaid ac i\u2019r corff. Gall dim ond edrych ar goed helpu pobl i gael gwellhad o afiechydon. Ein dymuniad yw annog pobl i dreulio mwy o amser yn mwynhau profiadau fel hyn. <\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<div id=\"attachment_223\" style=\"width: 285px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-223\" class=\"wp-image-223 size-full\" src=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk2.jpg\" alt=\"\" width=\"275\" height=\"412\" srcset=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk2.jpg 275w, https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk2-200x300.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 275px) 100vw, 275px\" \/><p id=\"caption-attachment-223\" class=\"wp-caption-text\">(Photo: Terry Mills)<\/p><\/div>\n<p>Wedi\u2019r cyfan, mae coed wedi rhoi bwyd a lloches i ni ac amryw o rywogaethau eraill ers cyn cof. Maent wedi bod ar y ddaear llawer hwy na dynoliaeth.<\/p>\n<p>Mae gan bob cornel o Goedwig Noddfa Boduan ei chymeriad unigryw ei hunan.<\/p>\n<p>Wrth i chi ddilyn y llwybrau o\u2019r maes parcio, byddwch yn symud rhwng goleuni a chysgod, o goed bedw arian ifainc, gwern, cyll a chriafol i fannau \u00e2\u2019u llond o goed p\u00een. Coed sbriws yw\u2019r brif rywogaeth yma, ond mae ambell dderwen i\u2019w gweld hefyd. <\/p>\n<p>Yn yr haf, mae bwa&#8230; plethedig canopi\u2019r coed yn plethu ynghau uwch ein pennau, gan adael i frithwaith o olau tyner gyrraedd y llwybr dan draed.<\/p>\n<p>Yn y rhan hon, coed bedw arian yw\u2019r mwyafrif. Rhain yw\u2019r arloeswyr ymhlith coed, yn ail-feddiannu tir lle cafodd coed blaenorol eu torri i lawr.<\/p>\n<p>Ar lawr y goedwig, mae\u2019r gweddillion a gafodd eu diosg gan y coed: dail cwymp y tymor blaenorol, canghennau wedi\u2019u malurio gan y gwynt, oll yn cynnig lloches i greaduriaid bychain o bob math.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<hr \/>\n<div id=\"attachment_224\" style=\"width: 285px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-224\" class=\"wp-image-224 size-full\" src=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk3.jpg\" alt=\"\" width=\"275\" height=\"413\" srcset=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk3.jpg 275w, https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk3-200x300.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 275px) 100vw, 275px\" \/><p id=\"caption-attachment-224\" class=\"wp-caption-text\">(Photo: Terry Mills)<\/p><\/div>\n<p>Edrychwch i fyny: teimlwch eich ysbryd yn codi. Bedw arian eiddil, pob un yn ymwthio tua\u2019r goleuni.<\/p>\n<p>Gwrandewch: mae\u2019r adar m\u00e2n yn brysur yn y copaon. Efallai na wnewch chi mo\u2019u gweld, ond byddwch yn si\u0175r o\u2019u clywed yn galw ar ei gilydd.<\/p>\n<p>Gyda lwc, fe glywch fewian y boncath sy\u2019n troelli fry uwchben.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<hr \/>\n<div id=\"attachment_225\" style=\"width: 285px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-225\" class=\"wp-image-225 size-full\" src=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk4.jpg\" alt=\"\" width=\"275\" height=\"413\" srcset=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk4.jpg 275w, https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk4-200x300.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 275px) 100vw, 275px\" \/><p id=\"caption-attachment-225\" class=\"wp-caption-text\">(Photo: Arabella Melville)<\/p><\/div>\n<p>Ar ffin orllewinol y goedwig, mae\u2019r tir yn gwyro lawr tua\u2019r afonig sy\u2019n disgyn o sylfaen hen losgfynydd ar arfordir gogleddol Ll\u0177n.<\/p>\n<p>Oedwch yma, gadewch i\u2019ch meddwl dawelu gan wrando tincial melodaidd y d\u0175r a lleisiau\u2019r \u0175yn yn galw am eu mamau yr ochr draw i\u2019r afonig.<\/p>\n<p>Dyma ran hynaf y goedwig, ac yma mae\u2019r amrywiaeth fwyaf o goed a blodau. <\/p>\n<p>Ffawydd, deri, castanwydd ac ynn sy\u2019n tyfu yma, gydag ambell i ddraenen wen, celynnen a bedwen arian yn eu mysg.<\/p>\n<hr>\n<div id=\"attachment_226\" style=\"width: 360px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-226\" class=\"wp-image-226 size-full\" src=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk5.jpg\" alt=\"\" width=\"350\" height=\"261\" srcset=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk5.jpg 350w, https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk5-300x224.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 350px) 100vw, 350px\" \/><p id=\"caption-attachment-226\" class=\"wp-caption-text\">(Photo: Arabella Melville)<\/p><\/div>\n<p>Dyma\u2019r <em>Amanita muscaria<\/em>, neu amanita\u2019r gwybed, un o\u2019r rhywogaethau ffwng mwyaf lliwgar. Mae\u2019n addurno llawr y goedwig, yn arbennig lle tyf bedw arian. Mae nifer o fathau eraill o\u2019r ffwng amanita i\u2019w cael yn y goedwig, a phob un yn brydferth. Ond maent hefyd yn wenwynllyd. Fe\u2019i defnyddiwyd i ladd pryfaid, gan roi\u2019r enw amanita\u2019r gwybed iddo, a\u2019i enw Saesneg: <em>fly agaric<\/em> yn ogystal.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Prin yw\u2019r ffwng bwytadwy\u2019r ydym wedi dod o hyd iddo yma \u2013 heblaw am y codenni mwg bychain sy\u2019n ymddangos ar y llwybrau ganol haf ond rydyn ni\u2019n dal i fforio! <\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<hr>\n<div id=\"attachment_227\" style=\"width: 360px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-227\" class=\"wp-image-227 size-full\" src=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk6.jpg\" alt=\"\" width=\"350\" height=\"262\" srcset=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk6.jpg 350w, https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk6-300x225.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 350px) 100vw, 350px\" \/><p id=\"caption-attachment-227\" class=\"wp-caption-text\">(Photo: Arabella Melville)<\/p><\/div>\n<p>Coedwig hynafol yw Noddfa Boduan, sy\u2019n brydferth o hyd, er gwaethaf yr holl goed a dorrwyd gan ei chyn-warchodwyr. Un arwydd sy\u2019n profi ei bod yn goedwig hynafol yw\u2019r holl glychau\u2019r gog a geir yma bob gwanwyn, ac mae hyn yn bosibl am nad yw\u2019r pridd wedi cael ei darfu arno\u2019n ormodol.<\/p>\n<p>Tynnwyd y llun hwn yn agos i\u2019r afonig, lle mae\u2019r tir yn gwyro\u2019n serth; yn rhy serth i beiriannau \u2026<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<div id=\"attachment_228\" style=\"width: 335px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-228\" class=\"wp-image-228 size-full\" src=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk7.jpg\" alt=\"Foxglove inspires poetry\" width=\"325\" height=\"243\" srcset=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk7.jpg 325w, https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk7-300x224.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 325px) 100vw, 325px\" \/><p id=\"caption-attachment-228\" class=\"wp-caption-text\">(Photo: Terry Mills)<\/p><\/div>\n<p>Yn uwch i fyny, ym mhrif ran y goedwig, mae clychau\u2019r gog yn dychwelyd wedi i\u2019r coed p\u00een gael eu torri, gan adael llawer mwy o oleuni i\u2019r llawr yn y gwanwyn cynnar.<\/p>\n<p>Mae bysedd y c\u0175n yn lliwio\u2019r goedwig yn yr haf ac yn ysbrydoli barddoniaeth.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<hr \/>\n<div id=\"attachment_229\" style=\"width: 285px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-229\" class=\"wp-image-229 size-full\" src=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk8.jpg\" alt=\"\" width=\"275\" height=\"413\" srcset=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk8.jpg 275w, https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk8-200x300.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 275px) 100vw, 275px\" \/><p id=\"caption-attachment-229\" class=\"wp-caption-text\">(Photo: Terry Mills)<\/p><\/div>\n<p>O oleuni y daw bywyd, wrth inni dorri llwybrau drwy\u2019r goedwig dywyll. <\/p>\n<p>Mae\u2019r blodyn menyn fel ceiniogau aur wedi\u2019u taenu dros lecyn tawel.<\/p>\n<hr>\n<div id=\"attachment_230\" style=\"width: 285px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-230\" class=\"wp-image-230 size-full\" src=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk9.jpg\" alt=\"\" width=\"275\" height=\"413\" srcset=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk9.jpg 275w, https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk9-200x300.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 275px) 100vw, 275px\" \/><p id=\"caption-attachment-230\" class=\"wp-caption-text\">(Photo: Terry Mills)<\/p><\/div>\n<p>Mae rhedyn ysblennydd yn y goedwig hon, sy\u2019n tyfu i daldra o bum troedfedd, gan nad oes angen llawer o olau arnynt.<\/p>\n<p>Mae amrywiaeth da o redyn yng Nghoedwig Noddfa Boduan: Marchredynen Wryw yw hon, a ddefnyddiwyd gan ffermwyr i ladd llyngyr yn eu da byw ers talwm.<\/p>\n<hr \/>\n<div id=\"attachment_232\" style=\"width: 285px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-232\" class=\"wp-image-232 size-full\" src=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk11.jpg\" alt=\"\" width=\"275\" height=\"367\" srcset=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk11.jpg 275w, https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk11-225x300.jpg 225w\" sizes=\"auto, (max-width: 275px) 100vw, 275px\" \/><p id=\"caption-attachment-232\" class=\"wp-caption-text\">(Photo: Arabella Melville)<\/p><\/div>\n<p>Blodau menyn, drain a mieri, pig yr aran&#8230; tyf blodau gwyllt yn doreithiog ger mynedfa\u2019r goedwig. Mae persawr hyfryd gwyddfid yn llenwi\u2019r awyr ar nosweithiau braf o haf.<\/p>\n<p>Mae gwyddfid yn tyfu ym mhob rhan o\u2019r goedwig, heblaw lle mae trwch o goed sbriws a blannwyd yn agos i\u2019w gilydd yn atal golau dydd. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, ein bwriad yw tynnu llawer o\u2019r coed hyn, i roi cyfle i fwy o flodau flodeuo lle mae glo\u00ffnnod byw yn dawnsio rhwng coed p\u00ear. <\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<hr \/>\n<div id=\"attachment_233\" style=\"width: 285px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-233\" class=\"wp-image-233 size-full\" src=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk12.jpg\" alt=\"\" width=\"275\" height=\"412\" srcset=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk12.jpg 275w, https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk12-200x300.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 275px) 100vw, 275px\" \/><p id=\"caption-attachment-233\" class=\"wp-caption-text\">(Photo: Terry Mills)<\/p><\/div>\n<p>Llwch i lwch.<\/p>\n<p>Dyma fedd William Melville, a gladdwyd ym Mehefin 2005. Roedd yn ddiwrnod arbennig iawn: trist, ac eto\u2019n ysbrydol.<\/p>\n<p>Gweler oriel lluniau: yr <a href=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/cylchlythyr\/dilyniad-claddu\/\">angladd cyntaf<\/a> yng nghoedwig Gwarchodfa Boduan.<\/p>\n<hr \/>\n<div id=\"attachment_234\" style=\"width: 285px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-234\" class=\"wp-image-234 size-full\" src=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk13.jpg\" alt=\"\" width=\"275\" height=\"413\" srcset=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk13.jpg 275w, https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk13-200x300.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 275px) 100vw, 275px\" \/><p id=\"caption-attachment-234\" class=\"wp-caption-text\">(Photo: Terry Mills)<\/p><\/div>\n<p>Roedd hi\u2019n aeaf y tro cyntaf inni gerdded o amgylch y goedwig, a\u2019r llecyn hwn yn foel. <\/p>\n<p>Mor llawn ydyw o dyfiant amrywiol ydyw erbyn hyn!<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<hr \/>\n<div id=\"attachment_235\" style=\"width: 285px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-235\" class=\"wp-image-235 size-full\" src=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk14.jpg\" alt=\"\" width=\"275\" height=\"413\" srcset=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk14.jpg 275w, https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk14-200x300.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 275px) 100vw, 275px\" \/><p id=\"caption-attachment-235\" class=\"wp-caption-text\">(Photo: Terry Mills)<\/p><\/div>\n<p>A dyma ni bron a chyrraedd yn \u00f4l yn y maes parcio.<\/p>\n<p>Gall fod yn anodd gadael y llecyn hyfryd hwn.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<hr>\n<p><a href=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/coedlan\/#woodland-map\">Map o lwybrau yng Nghoed Gwarchodfa Boduan<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cariad at goed yn reddfol i ddynolryw. Rydym yn edmygu eu godidowgrwydd, yn ymhyfrydu yn y blodau a\u2019r rhedyn wrth eu bonion, yn mwynhau anadlu eu peraroglau. Gallwn ddarganfod tawelwch yng ngolau amryliw tyner y goedwig, a synhwyro\u2019r cysylltiadau di-rif rhyngom ni \u00e2 bywyd y goedwig. Fel y dywedodd R. Williams Parry yn ei&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/taith-gerdded\/\" title=\"Read Tro drwy\u2019r Coed\">Read more &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-221","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.7 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Tro drwy\u2019r Coed - Ymddiriedolaeth y Goedwig Dragwyddol<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/taith-gerdded\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Tro drwy\u2019r Coed - Ymddiriedolaeth y Goedwig Dragwyddol\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae cariad at goed yn reddfol i ddynolryw. Rydym yn edmygu eu godidowgrwydd, yn ymhyfrydu yn y blodau a\u2019r rhedyn wrth eu bonion, yn mwynhau anadlu eu peraroglau. Gallwn ddarganfod tawelwch yng ngolau amryliw tyner y goedwig, a synhwyro\u2019r cysylltiadau di-rif rhyngom ni \u00e2 bywyd y goedwig. Fel y dywedodd R. Williams Parry yn ei... Read more &raquo;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/taith-gerdded\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ymddiriedolaeth y Goedwig Dragwyddol\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/Woodland.burials.Wales\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-09-20T12:24:15+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk1.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.eternalforest.org\\\/cy\\\/taith-gerdded\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.eternalforest.org\\\/cy\\\/taith-gerdded\\\/\",\"name\":\"Tro drwy\u2019r Coed - Ymddiriedolaeth y Goedwig Dragwyddol\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.eternalforest.org\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.eternalforest.org\\\/cy\\\/taith-gerdded\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.eternalforest.org\\\/cy\\\/taith-gerdded\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.eternalforest.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2018\\\/05\\\/walk1.jpg\",\"datePublished\":\"2018-05-14T10:24:32+00:00\",\"dateModified\":\"2023-09-20T12:24:15+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.eternalforest.org\\\/cy\\\/taith-gerdded\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.eternalforest.org\\\/cy\\\/taith-gerdded\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.eternalforest.org\\\/cy\\\/taith-gerdded\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.eternalforest.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2018\\\/05\\\/walk1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.eternalforest.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2018\\\/05\\\/walk1.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.eternalforest.org\\\/cy\\\/taith-gerdded\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.eternalforest.org\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Tro drwy\u2019r Coed\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.eternalforest.org\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.eternalforest.org\\\/\",\"name\":\"Ymddiriedolaeth y Goedwig Dragwyddol\",\"description\":\"Coedlan naturiol ar gyfer claddedigaethau a chyflwyniadau\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.eternalforest.org\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Tro drwy\u2019r Coed - Ymddiriedolaeth y Goedwig Dragwyddol","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/taith-gerdded\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Tro drwy\u2019r Coed - Ymddiriedolaeth y Goedwig Dragwyddol","og_description":"Mae cariad at goed yn reddfol i ddynolryw. Rydym yn edmygu eu godidowgrwydd, yn ymhyfrydu yn y blodau a\u2019r rhedyn wrth eu bonion, yn mwynhau anadlu eu peraroglau. Gallwn ddarganfod tawelwch yng ngolau amryliw tyner y goedwig, a synhwyro\u2019r cysylltiadau di-rif rhyngom ni \u00e2 bywyd y goedwig. Fel y dywedodd R. Williams Parry yn ei... Read more &raquo;","og_url":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/taith-gerdded\/","og_site_name":"Ymddiriedolaeth y Goedwig Dragwyddol","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/Woodland.burials.Wales","article_modified_time":"2023-09-20T12:24:15+00:00","og_image":[{"url":"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk1.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/taith-gerdded\/","url":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/taith-gerdded\/","name":"Tro drwy\u2019r Coed - Ymddiriedolaeth y Goedwig Dragwyddol","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.eternalforest.org\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/taith-gerdded\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/taith-gerdded\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk1.jpg","datePublished":"2018-05-14T10:24:32+00:00","dateModified":"2023-09-20T12:24:15+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/taith-gerdded\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/taith-gerdded\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/taith-gerdded\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk1.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.eternalforest.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/walk1.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/taith-gerdded\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Tro drwy\u2019r Coed"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.eternalforest.org\/#website","url":"https:\/\/www.eternalforest.org\/","name":"Ymddiriedolaeth y Goedwig Dragwyddol","description":"Coedlan naturiol ar gyfer claddedigaethau a chyflwyniadau","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.eternalforest.org\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/221","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=221"}],"version-history":[{"count":34,"href":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/221\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1571,"href":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/221\/revisions\/1571"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.eternalforest.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=221"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}