Cyfarfod Cyhoeddus – 12 Mehefin 2023

Rydym yn eich gwahodd i ddod i Gyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd St Cyngar, Llangefni LL77 7EB ar Nos Lun 12 Mehefin am 7pm. Hoffai’r Ymddiriedolaeth Goedwig Dragwyddol rannu ei syniadau am greu tir claddu naturiol ar Ynys Môn. Byddai’n rhan o goedtir a rhan o blodau gwyllt, sy’n agored i bawb. Dewch i sgwrsio dros de a bisgedi!

Mae tir wedi’i gynnig inni sydd â golygfa hyfryd o Goedwig Niwbwrch draw at Eryri a Phen Llŷn i greu mynwent naturiol. Gyda’i hanes a’i draddodiadau unigryw, mae Ynys Môn yn lle delfrydol ar gyfer Coedwig Dragwyddol.

Lawrlwythwch ein taflen i ddarganfod mwy:
Ymddiriedolaeth y Goedwig Dragwyddol – Taflen Malltraeth