Haf yn y Goedwig – Cylchlythyr 132 – Awst 2022

Mae hi wedi bod mor sych yn y coed yr haf hwn, mae’r ddaear fel concrit o dan yr uwchbridd tywyll cyfoethog. Dwi erioed wedi gweld y nant mor isel. Ond o leiaf mae gennym ni nant ac mae’n dal i redeg, felly mae gennym ni ddwr. Ac mae’n rhaid bod dwr yn y ddaear, oherwydd mae’r coed, y rhedyn a’r mieri yn parhau i fod mor ogoneddus o wyrdd, gan amsugno’r heulwen.

Cylchlythyr 132 - Awst 2022