| |
Parch tuag at pob ffurf o fywyd yw ein ethos, a thrwy
hyn credwn mewn cymryd gofal o’r biosffer gyflawn,
gyda’r dealltwriaeth bod yr holl ffurfiau o fywyd yn
gysylltiedig â’i gilydd. Rydym yn defnyddio dulliau
organaidd o weithredu: yn compostio, yn ail-gylchu ac yn
osgoi defnyddio cemegau gwenwynllyd. Rydym yn prynu’n
lleol pob cyfle a gawn, yn ail-ddefnyddio popeth bosib
ac yn wyliadwrus o ddefnyddio adnoddau na ellir eu
hadnewyddu. Rydym yn ymdrechu i ehangu bio-amrywiaeth,
ac yn ymhyfrydu ym mhrydferthwch ac amrywiaeth Natur.
Cydnabyddwn fod marwolaeth yn rhan naturiol o fywyd, ac
edrychwn ar farwolaeth fel ffordd i’r corff newid i
ffurfiau o fywyd newydd. Rydym yn cysuro galarwyr a’r
rhai sydd yn wynebu marwolaeth drwy eu cymell i fwynhau
heddwch a chytgord y goedwig.
Wrth ofalu am bobl, rhaid cynnwys a derbyn pobl sydd â
chyfyngiadau, naill ai yn gorfforol, yn feddyliol neu’n
ariannol. Golyga hyn ein bod yn gwerthfawrogi’r
gwahaniaethau rhwng unigolion, credoau a diwylliannau,
ac hefyd yn gwerthfawrogi creadigedd a dysg. Y cyfan o
ofynnwn yw i ymwelwyr â’r goedwig barchu’r amgylchedd, a
pheidio ag achosi niwed i unrhyw un o’r ffurfiau eraill
o fywyd sydd o’u cwmpas.
| |
 |
|
Ymgorfforir pob agwedd o’n Gweledigaeth ym mhedwar nod
yr Ymddiriedolaeth:
1. i ddarparu coedlan adnoddol ar gyfer y cyhoedd;
2. i ddarparu adnoddau addysgol ynghylch y goedlan;
3. i ddarparu a chynnal mynwent werdd; ac
4. i gynnig ymgeledd i alarwyr.
Hyderwn, yn y tymor hir, y bydd Ymddiriedolaeth y
Goedwig Dragwyddol yn gallu ehangu’r weledigaeth hon, a
chynnig cymorth i grwpiau eraill sydd am sefydlu
mynwentydd gwyrdd lle y gall bywyd gwyllt a choed
fwynhau noddfa ochr yn ochr â phobl.
|
|