| |
Mae Ymddiriedolaeth y Fforest Dragwyddol yn cynnig cyfle
i gynnal amrywiaeth o wasanaethau yn y goedlan, o
gladdedigaethau hyd at ddarparu blychau nythu
i goffáu
pobl neu ddigwyddiadau arbennig. Rydym yn claddu pobl,
anifeiliaid anwes a lludw ar safleoedd o’ch dewis chi,
ac mae ein dull o gofnodi a mapio manwl yn sicrhau y
bydd y safle a ddewiswch yn gysegredig am byth i chi
a’ch ceraint. Gallwn blannu coeden i chi, yn ogystal â
rhedyn y coed, clychau’r gog a blodau gwyllt eraill sy’n
naturiol i’r ardal.
Pe dymunech gael llannerch ar gyfer eich hunan neu eich
teulu a’ch anifeiliaid anwes, gallwn eich cyfarfod yn y
goedwig a’ch arwain o’i chwmpas i ymweld â’r safleoedd
sydd ar gael cyn dewis. Os nad oes diddordeb gennych
mewn claddedigaeth – efallai, er enghraifft, eich bod am
ddathlu genedigaeth plentyn neu gael cofeb i berson a
gollwyd flynyddoedd ynghynt – gallwch ddewis coeden i
arddangos plac arbennig wedi ei wneud â llaw, neu flwch
nythu.
Mae’r goedlan ar agor bob amser i gerddwyr, a gallwch
ymweld â hi ar unrhyw adeg. Mae’r glwyd yn ddigon
llydan i dderbyn cadair olwyn, mae llwybrau da drwy’r
goedwig, ac mae safleoedd parcio i’w cael oddi ar y
ffordd fawr.
Claddedigaethau
Cofrestrir Gwarchodfa Boduan fel mynwent, ond mae’n
fynwent unigryw. Dyma’r unig fan yng Nghymru lle gellir
claddu unrhyw un mewn coedlan sefydliedig. Rydym yn
ymneilltuo gofod helaeth ar gyfer pob claddedigaeth – y
maint lleiaf o safle yw 2.5 x 5m (rhyw 128 o droedfeddi
sgwâr) – ac ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yr holl waith
paratoadol, gan gynnwys twtio’r bedd ac ail-blannnu
wedi’r angladd. Mae’r cyfleusterau ar gyfer y galarwyr
yn cynnwys lle parcio digonol a thoiled hyfryd o
anarferol. Gallwch drefnu unrhyw ffurf o seremoni yn ôl
eich dymuniad, gan gynnwys rhai crefyddol, dyngarol neu
paganaidd. Gellir trefnu cerddoriaeth fyw hefyd. Fe
wnawn ni eich cynorthwyo, a chyd-weithio â’ch ymgymerwr,
os ydych am ddefnyddio un. Dewch i siarad â ni, ac fe
wnawn y cyfan o fewn ein gallu i sicrhau y bydd eich
seremoni yn gwbl unol â’ch dymuniad. Wedi’r angladd
gallwn blannu coeden o’ch dewis, neu osod carreg
goffaol.
Llennyrch Teuluol
Gellir ymneilltuo safleoedd ehangach ar gyfer teuluoedd
neu grwpiau. Gallwch glustnodi llannerch ymlaen llaw,
ac os oes gennych chi anifeiliaid anwes, gellir eu
claddu hwythau yn yr un fan.
Llwch
I’r rhai sy’n ffafrio amlosgiad, gellir claddu’r llwch o
dan goeden arbennig (un sefydlog neu un wedi ei phlannu
i’r pwrpas) er mwyn creu cofeb fechan. Rydym hefyd yn
fodlon paratoi a gosod blychau nythu i adar neu
ystlumod, gyda phlac enw o bosib, neu adeiladu mainc yn
arbennig i chi.
Cyflwyniadau
Gallwch gyflwyno coeden, rhan arbennig o’r goedlan neu
ran o’r afonig i gofnodi achlysuron arbennig megis:
genedigaethau, dyddiadau penblwydd, priodasau,
digwyddiadau penodol pwysig megis llwyddo mewn
arholiadau, neu lwyddiannau eraill ac wrth gwrs, er cof
am geraint annwyl.
Taliadau
Ffoniwch ni i gael prisiau am ein gwasanaeth. Os ydych
am ymneilltuo llannerch neu safle ymlaen llaw, gellir
rhannu’r gost dros nifer o flynyddoedd gyda’n cynllun
archeb banc reolaidd ‘Talu ’Nawr, Marw Wedyn’, sy’n eich
galluogi i ddefnyddio’r safle neu lannerch o ddyddiad
cychwyn yr archeb reolaidd. Gallwn bob amser drafod a
dod i delerau fel y gallwch fforddio claddedigaeth yng
Ngwarchodfa Boduan. |
|