Taith Gerdded

Tro trwy’r Coed

Mae’n reddf dynol i garu coed.  Rydym yn edmygu eu godidowgrwydd, yn ymhyfrydu yn y blodau a rhedyn wrth eu bonion, yn mwynhau anadlu eu peraroglau.  Gallwn ddarganfod llonyddwch yn ei golau amryliw.  Fel y dywedodd R. Williams Parry yn ei gerdd ‘Eifionydd’,

A llonydd gorffenedig

                      Yw llonydd y Lôn Goed,

                        O fwa’i tho plethedig

                       I’w glaslawr dan fy nhroed.

                        I lan na thref nid arwain ddim

                        Ond hynny nid yw ofid im.


(Photo: Terry Mills)

Gallwn elwa yn gorfforol a meddyliol drwy fod ymysg coed, yn anadlu’r gwyrddni. Mae gan y Siapaneaid air am hyn: shinrin-yoku– anadlu’r coed.  Mae tystiolaeth wyddonol yn profi y gall ein gwellhau yn ysbrydol, a hyd yn oed yn gorfforol.  Dim ond drwy edrych ar goed, gall pobl gael gwellhad o afiechydon. Ein dymuniad yw annog pobl i dreulio mwy o amser yn mwynhau profiadau fel hyn. Wedi’r cyfan, mae coed wedi rhoi bwyd a lloches i ni ac amryw o rywogaethau eraill.  Maent wedi bod ar y ddaear llawer hwy na dynoliaeth.

 

(Photo: Terry Mills)

Wrth i chi ddilyn y llwybrau o’r maes parcio, rydych yn symud o oleuni i gysgodion, o goed bedw arian ifainc, gwern, cyll a chriafol i fannau llawn coed pîn, gydag ambell i dderwen i’w gweld hefyd.

Yn yr haf, mae bwa … plethedig i’w gweld, yn torri’r goleuni yn dalpiau meddal ar y llwybr.

Yn y rhan hon coed bedw arian yw’r mwyafrif.  Rhain yw’r arloeswyr ymhlith coed, yn ail-feddiannu tir lle mae’r coed blaenorol wedi eu torri lawr.

Ar lawr y goedwig, mae sbwriel y coed: dail o’r tymor blaenorol sydd wedi disgyn, canghennau wedi eu malurio gan y gwynt, gan gynnig lloches i greaduriaid bychain o bob math.

 

 


(Photo: Terry Mills)

Edrychwch i fyny: teimlwch eich ysbryd yn codi.

Bedw arian eiddil, pob un yn ymwthio tua’r goleuni

 

Gwrandewch: mae’r adar mân yn brysur yn y copaon.  Ni allwch eu gweld, ond gallwch eu clywed yn galw ar ei gilydd.  Gyda lwc, gallwch glywed mewian y boncath sy’n troelli fry uwchben.

 

 


(Photo: Arabella Melville)

Ar y ffin orllewinol, mae’r tir yn gwyro lawr tua’r afonig sy’n disgyn o sylfaen hen fynydd tân ar arfordir gogleddol Llŷn.

Arhoswch yma, gadewch i’ch meddyliau dawelu gyda thincial melodaidd y dŵr a lleisiau’r ŵyn yn galw am eu mamau yr ochr draw iddi.

Dyma ran hynaf y goedwig, lle mae’r amrywiaeth mwyaf o goed a blodau. Ffawydd, deri, castanwydd ac ynn sy’n tyfu yma, gydag ambell i ddraenen wen, celynnen a bedwen arian.

 

(Photo: Arabella Melville)

This is

Dyma’r Amanita muscaria, neu amanita’r bwybed, un o’r rhywogaethau ffwng mwyaf lliwgar.  Mae’n addurno llawr y goedwig, yn arbennig lle mae’r bedw arian yn tyfu. Mae nifer o fathau eraill o’r ffwng amanitai’w cael yn y goedwig, ond maent i gyd yn wenwynllyd. Defnyddiwyd hwn i ladd pryfaid, gan roi ei enw Saesneg iddo: fly agaric.

 

Mae rhai ffwg bwytadwy i’w cael yn y goedwig, ond peidiwch mentro eu bwyta heb gyfarwyddyd arbennigol.

 

(Photo: Arabella Melville)

Hen goedwig ydi Gwarchodfa Boduan, dal yn brydferth ar waethaf yr holl dorri gan ei chyn-warchodwyr.  Un arwydd sy’n profi ei bod yn goedwig hynafol yw’r holl glychau’r gog a geir yma pob gwanwyn.

Tynnwyd y llun hwn yn agos i’r afonig, lle mae’r tir yn gwyro’n serth – rhy serth i beiriannau …

Yn uwch i fyny, ym mhrif ran y goedwig, mae clychau’r gog yn dychwelyd wedi i’r coed pîn gael eu torri, gan adael llawer mwy o oleuni i’r llawr yn y gwanwyn cynnar.

 

Foxglove inspires poetry

(Photo: Terry Mills)

Bysedd y cŵn yn lliwio’r goedwig yn yr haf.

 


(Photo: Terry Mills)

Gyda goleuni y daw bywyd, wrth i ni dorri llwybrau drwy’r goedwig.  Mae’r blodyn menyn fel ceiniogau aur wedi eu taenu dros lecyn tawel.

Coedredynen ysblennydd sy’n tyfu bum troedfedd yn y goedwig, heb angen llawer o olau.

Mae amrywiaeth da o redyn yng nghoedwig Boduan: dyma’r Rhedyn Gwryw, a ddefnyddiwyd ers talwm gan ffermwyr i ladd llyngir yn eu da byw.

(Photo: Terry Mills)


(Photo: Arabella Melville)

Blodau menyn, drain, pig yr aran, llu o flodau gwyllt ger y fynedfa i’r goedwig. Mae persawr hyfryd y gwyddfid yn llenwi’r awyr ar nosweithiau braf o haf.

 

 

 


(Photo: Terry Mills)

Llwch i lwch.

 

Dyma fedd William Melville, a gladdwyd ym Mehefin 2005.  Roedd yn ddiwrnod arbennig iawn: trist, ac eto’n ysbrydol.

 

Gweler galeri o luniau:  yr angladd cyntaf yng nghoedwig Gwarchodfa Boduan


(Photo: Terry Mills)

Roedd hi’n aeaf y tro cyntaf i ni gerdded o amgylch y goedwig, a’r llecyn hwn yn foel. Erbyn hyn, mor llawn ydyw o dyfiant amrywiol.

 


(Photo: Terry Mills)

Bron yn ôl yn y maes parcio.

 

Gall fod yn anodd gadael y llecyn hyfryd hwn.